Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Page 1

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant Pecyn cymorth


Cynnwys Am y pecyn cymorth yma

3

1. Rhannau rhydd Beth yw rhannau rhydd Buddiannau chwarae rhannau rhydd Themâu chwarae a chwarae rhannau rhydd

6 9 10

2. Arweiniad ymarferol - gwthio’r cwch i’r dŵr Gwthio’r cwch i’r dŵr Cynnal archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol Rhannau rhydd Casglu digonedd o rannau rhydd Storio Gwirio rhannau rhydd cyn ac yn ystod pob sesiwn chwarae Sesiynau blasu chwarae Ymateb i gwestiynau cyffredin

15 16 18 20 21 24 26 28

3. Hwyluso chwarae rhannau rhydd Rôl oedolion Sefydlu trefniadau arferol ar gyfer chwarae rhannau rhydd Cyflwyno a gwreiddio chwarae rhannau rhydd Cynnal y momentwm Strwythurau chwarae lled-barhaol Asesu risg-budd ar gyfer chwarae rhannau rhydd Datblygu datganiad neu bolisi chwarae

Cyfeiriadau

31 34 36 37 39 40 43 44

4. Atodiadau 1: Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae 2: Enghraifft o daflen / llythyr at rieni 3: Enghraifft o boster ar gyfer yr ystafell staff 4: Cynllun gweithredu ar gyfer cyflwyno enghreifftiau o chwarae rhannau rhydd 5: Rhannau rhydd profedig 6: Enghraifft o ddatganiad chwarae 7: Chwarae rhannau rhydd a Fframweithiau Arolygu Cymru

Diolchiadau

47 48 49 50 54 55 56 58

Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar Loose Parts Play A toolkit, a gyd-ysgrifennwyd gan Theresa Casey a Juliet Robertson. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Inspiring Scotland, mewn cydweithrediad â Grŵp Strategaeth Chwarae Yr Alban a’i ariannu gan Lywodraeth Yr Alban. Rydym wedi ei addasu, gyda’u caniatâd caredig, i adlewyrchu’r cyd-destun a’r cefndir cyfreithiol yng Nghymru. 2 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Am y pecyn cymorth yma Beth ydyn ni’n gobeithio ei gyflawni gyda’r pecyn cymorth yma? Ein nod yw i fwy o blant gael mynediad i adnoddau ar gyfer chwarae rhannau rhydd ac y bydd oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg yn teimlo’n fwy cyfforddus a hyderus ynghylch darparu chwarae rhannau rhydd yn eu lleoliadau.

Nodau’r pecyn cymorth •

I gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth rhannau rhydd i chwarae plant

I ddarparu arweiniad ymarferol ynghylch chwarae rhannau rhydd i’r rheini sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bob oed

I eiriol dros ddefnyddio rhannau rhydd fel dull ar gyfer datblygu cyfleodd chwarae yn y cartref, yr ysgol ac yn y gymuned.

Ar gyfer pwy mae’r pecyn cymorth? Bydd y pecyn cymorth yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws pob ystod oedran, mewn llawer o fathau o leoliadau yn cynnwys ysgolion, iechyd, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau gofal plant, ac ar gyfer yr amrywiol sefydliadau sy’n anelu i ymgysylltu â phlant a theuluoedd. Gallai hyn gynnwys y rheini sy’n dylunio neu reoli gofodau cyhoeddus ac atyniadau ymwelwyr, y sector greadigol, trefnwyr digwyddiadau a busnesau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd.

enghreifftiau a gyflwynir i wahanol gyd-destunau, amgylcheddau ac oedrannau ac i gynnwys plant sydd angen cefnogaeth ychwanegol.

Nodyn arbennig ar gyfer ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant Mae rhannau rhydd yn ymwneud â dysgu am y byd go iawn ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae’r broses o’u cyflwyno yn ogystal â chwarae gyda nhw yn galw am gydweithredu, rhannu, meddwl, datrys problemau a phenderfynu ble mae’r canlyniad yn amlwg – profiadau chwarae gwell. Effaith hwyluso chwarae rhannau rhydd o ansawdd yw gwell iechyd a lles a, thrwy hynny, caiff cylchdro cadarnhaol ei greu. Mae Atodiad 7 yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall gwreiddio chwarae rhannau rhydd fod yn elfen greiddiol o agwedd ysgol neu leoliad tuag at Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn, gan ddangos sut y mae mynediad i chwarae rhannau rhydd yn cysylltu â nifer o’i elfennau. Mae hefyd yn cydblethu gyda dogfen Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Canllaw arolygu ar gyfer gwarchod plant, gofal dydd a chwarae mynediad agored.

Trwy’r pecyn cymorth yma rydym wedi cynnwys enghreifftiau a dyfyniadau o leoliadau sy’n defnyddio rhannau rhydd fel rhan o’u darpariaeth ar gyfer chwarae. Mae’r rhain wedi eu casglu o amrywiaeth o leoliadau yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ysgolion a phrosiectau cymunedol. Gan fod yr arddull sylfaenol yn aros yr un fath, bydd yn hawdd iawn cymhwyso’r

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 3


‘Mae’r mwyafrif o ysgolion yn creu amgylcheddau dysgu deniadol ac mae ganddynt ddigon o adnoddau dysgu addas. Yn yr achosion gorau, byddant yn cynllunio gofod awyr agored mewn modd llawn dychymyg er mwyn darparu ystod eang o heriau a chyfleoedd corfforol a chreadigol ar gyfer y disgyblion. Ble fo angen i ysgolion wella’r amgylchedd dysgu ffisegol, bydd hyn yn ymwneud yn bennaf â gwella mynediad i, neu’r ddarpariaeth ar gyfer, dysgu awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen.’ Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2015-2016 Mae’r pecyn cymorth yn ymateb hefyd i’r dyletswyddau statudol a osododd Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn rhan o agenda gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, sy’n cydnabod y gall plant ddioddef o dlodi profiadau, cyfleoedd ac

uchelgeisiau, ac y gall y math yma o dlodi effeithio ar blant o bob cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar draws Cymru. Fel rhan o’u Hasesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, bydd rhaid i awdurdodau lleol asesu i ba raddau y mae ysgolion yn darparu amgylchedd chwarae diddorol ar gyfer y plant yn ystod amser egwyl y diwrnod ysgol. Mae Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae ysgolion yn darparu cyfle pwysig i blant chwarae’n ystod y diwrnod ysgol ac am gyfnodau cyn ac ar ôl gwersi. Mae Llywodraeth Cymru’n argymell y dylai awdurdodau lleol gynghori ysgolion i ddarparu gofod chwarae o ansawdd uchel a digon o amser i blant chwarae yn ystod y diwrnod ysgol a rhoi eu hystyriaeth lawn i agor y ddarpariaeth yma y tu allan i oriau addysgu.

4 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


1. Rhannau rhydd Beth yw rhannau rhydd? 6

Buddiannau rhannau rhydd 9

Themâu chwarae a chwarae rhannau rhydd 10


Beth yw rhannau rhydd? Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae, gan roi’r adnoddau iddynt y maent eu hangen i ymestyn eu chwarae. ’Dyw rhannau rhydd ddim yn gyfarwyddol ac maent yn cynnig posibiliadau diddiwedd. Gall brigyn, er enghraifft, fod yn enwair bysgota ger dŵr real neu ddychmygol, yn llwy mewn cegin fwd, yn arf i brocio pêl sy’n sownd mewn coeden; gellir ei daflu, ei arnofio, ei dorri’n ei hanner, ei ysigo, ei blygu, ei guddio, ei osod ar bentwr, ei losgi, ei glymu’n sownd i rywbeth arall, ei hollti, ei gatapyltio neu gael gwared ohono. Fydd mannau chwarae statig, digyfnewid yn gwneud fawr ddim ar gyfer plant, tra bydd amgylcheddau y gellir eu trin a’u trafod, ble y bydd pethau’n symud a ble gellir eu symud, yn agor bydoedd o bosibiliadau. Ar draeth, er enghraifft, ceir digonedd o ddŵr, tywod, cerrig, creigiau, arogleuon, pethau i’w gweld, golygfeydd a gweadau sy’n galluogi plant i fod yn hynod o ddyfeisgar a chreadigol yn eu chwarae. Yn aml, bydd amgylcheddau naturiol fel coedwigoedd aeddfed neu draethau’n darparu llawer mwy o rannau rhydd gyda lefelau uwch o bosibiliadau na llawer o ofodau chwarae artiffisial, fel maes chwarae tarmac ysgol neu barc trefol. Fydd plant sy’n chwarae’r tu allan neu mewn gofodau mawr dan do gyda phlant eraill ddim angen llawer o deganau. Trwy ddarparu ambell i degan a ddewiswyd yn ddoeth, ond nifer o rannau rhydd, gallwn gyfoethogi’r gofod chwarae a hwyluso chwarae.

‘Wrth i’r beics a’r sgwteri wisgo dydyn ni ddim wedi cael rhai newydd yn eu lle gan ein bod yn teimlo bod y plant yn cael mwy o fwynhad corfforol a phrofiadau gyda’r rhannau rhydd na gydag unrhyw offer neu adnoddau eraill a welais yn fy 15 mlynedd yn y maes.’ Sam Maitland-Price, Rheolwraig Meithrinfa

Mae’r rhestr rhannau rhydd posibl yn ddiddiwedd, ond gall gynnwys: •

adnoddau naturiol – fel gwellt, mwd a moch coed

deunyddiau ac offer adeiladu – planciau, hoelion a morthwylion

deunyddiau sgrap – hen deiars a darnau o landeri

rhisgl pren – gall fod yn arwyneb maes chwarae diogel yn ogystal ag yn rhan rhydd

ac, yn fwyaf hanfodol, amrywiaeth o wrthrychau a gafwyd.

Mae plant angen amgylcheddau y gallant eu trin a’u trafod a ble y gallant ddyfeisio, adeiladu, gwerthuso ac addasu eu creadigaethau a’u syniadau eu hunain trwy chwarae. Mae plant angen cyfleodd i ddatblygu perchenogaeth o’r amgylchedd ble maent yn chwarae. Mae cyflwyno rhannau rhydd, fel deunyddiau sgrap, tywod a dŵr yn cynyddu’r posibiliadau i blant fwynhau’r mathau yma o ymddygiadau, hyd yn oed mewn amgylcheddau ‘artiffisial’, y tu allan neu’r tu mewn.

Mae digonedd o rannau rhydd i blant chwarae gyda nhw’n elfen ganolog o ethos y maes chwarae antur sy’n ymestyn yn ôl i’r ‘meysydd chwarae jync’ anfarwol (skrammellegeplad neu byggelegeplad) a grëwyd gyntaf gan y pensaer tirwedd C. Th. Sørenson yn Emdrup, Denmarc ym 1943. Wedi eu hysbrydoli gan enghreifftiau Sgandinafaidd, dechreuodd rhwydwaith o feysydd chwarae antur dyfu yn y DU ar ddiwedd y 1950au a’r 60au, pryd y chwaraeodd y Fonesig Allen o Hurtwood rôl allweddol yn ogystal â mynnu cael cyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl. International Play Association, 2011

6 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


‘Ers inni gael y sied chwarae, bu llai o ddadlau. Mae’r sied chwarae wedi dod a ni’n agosach at ein gilydd nag o’r blaen. Mae’r sied chwarae wedi ein gwneud ni’n hapusach yn yr ysgol. Mae’r sied chwarae wedi gwneud amser chwarae’n hwyl go iawn.’ Plentyn, Ysgol Llanfynydd Prosiect Ysgol ‘Playful Futures’

Bydd plant yn dysgu orau pan allant chwarae’n rhydd. Mae angen iddynt allu defnyddio adnoddau go iawn yn eu chwarae, yn ogystal â theganau. Mae llawer o ddulliau addysgu, fel Steiner Waldorf neu Montessori, yn eiriol yr angen am brofiadau go iawn er mwyn ennill sgiliau bywyd. Bydd chwarae gydag amrywiaeth o rannau rhydd yn cynorthwyo gyda’r dulliau hyn.

Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, byddai plant i’w gweld yn aml ar safleoedd segur a thir llwyd ble roedd y jync yn darparu cyfleodd chwarae diddiwedd. O’r gwreiddiau hyn, datblygodd meysydd chwarae antur yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Yn ddiweddarach, mae mentrau fel y Scrapstore Playpod® ym Mryste, wedi arddangos gwerth chwarae deunydd sgrap mewn amgylcheddau meysydd chwarae ysgolion ac wedi bod yn gatalydd ar gyfer ehangu’r defnydd o rannau rhydd mewn ysgolion ar amser chwarae.

Dylai cyflwyno rhannau rhydd fod yn rhan o agwedd ehangach tuag at ddatblygu cyfleoedd i chwarae yn yr ysgol a’r gymuned, fel caiff ei eiriol gan Lywodraeth Cymru yn ei arweiniad statudol i awdurdodau lleol ynghylch dyletswyddau digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Mae damcaniaethwyr ac arloeswyr plentyndod cynnar, dros nifer o ganrifoedd, wedi bod yn eiriolwyr ffyddlon dros fuddiannau plant ifanc yn chwarae’r tu allan mewn mwd, tywod, dŵr ac yn treulio amser yn rheolaidd ym myd natur. Ceir traddodiadau hirsefydlog o ddefnyddio eitemau o’r cartref ar gyfer chwarae, defnyddio offer garddio a gwaith coed, a chael byrddau ‘tincera’ ble y gall plant arbrofi. I’r plant ieuengaf, mae chwarae darganfyddol a phrofiadol yn cynnig trysorfeydd o wrthrychau syml, fel sbwliau pren a riliau edau i fabis eu harchwilio gyda’u dwylo a’u cegau.

Mae’n fwyaf effeithiol fel rhan o agwedd gydweithrediadol, gynhwysol sy’n seiliedig ar hawliau, sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn llwyr ar bob cam. Pan fydd oedolion yn galluogi prosesau sy’n caniatáu i feddyliau, teimladau a barn y plant gael gwrandawiad, eu gweithredu arnynt a’u cynnwys, mae’n brofiad cadarnhaol i bawb sy’n rhan o’r broses. Mae chwarae’n ‘hanfodol ar gyfer iechyd a lles plant ac mae’n hyrwyddo datblygiad creadigedd, dychymyg, hunanhyder, hunaneffeithiolrwydd, yn ogystal â sgiliau a chryfderau corfforol, cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol’ (Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, 2013).

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 7


Theori Rhannau Rhydd Nicholson

Theori fforddiannau

Daeth y term ‘rhannau rhydd’ i fodolaeth ym 1971 wedi i Simon Nicholson gyhoeddi papur o’r enw ‘The Theory of Loose Parts’.

Pan fydd plant yn chwarae mewn gofod neu gyda gwrthrych byddant yn ei brofi mewn ffordd unigryw. Yn hytrach na’i ddiben bwriadedig, mae’n bosibl y byddant yn ei ystyried o ran ei ‘fforddiannau’. Awgrymodd y seicolegydd o America, James J. Gibson (1979) bod gan amgylcheddau a’r gwrthrychau a geir ynddynt werthoedd ac ystyron sy’n unigryw i’r person sy’n eu gweld. Mae ‘fforddiannau’ gwrthrych neu ofod yn golygu’r holl bethau y mae ganddo’r potensial i’w wneud neu i’w fod. Er enghraifft, efallai bod wal frics wedi ei hadeiladu i greu ffin bendant rhwng palmant a gardd ond i lawer o blant bydd yn cynnig rhywle i eistedd, i gerdded ar ei hyd, i falansio, cuddio y tu ôl iddi a neidio oddi arni.

Disgrifiodd Nicholson rannau rhydd fel ‘newidion’ a chyflwynodd enghreifftiau fel: deunyddiau a siapiau; arogleuon a ffenomena ffisegol eraill, fel trydan, magnetedd a disgyrchiant; cyfryngau fel nwyon a hylifau; synau, cerddoriaeth, symudiad; adweithiau cemegol, coginio a thân; a bodau dynol eraill, ac anifeiliaid, planhigion, geiriau, cysyniadau a syniadau. Gyda’r pethau yma i gyd, mae pob plentyn yn hoffi chwarae, arbrofi, darganfod a dyfeisio a chael hwyl.

‘Dylai pob plentyn gael mynediad i sied chwarae.’ Goruchwylydd amser cinio, Ysgol Llanfynydd Prosiect Ysgol ‘Playful Futures’

‘Mewn unrhyw amgylchedd, mae’r lefel o ddyfeisgarwch yn ogystal â’r lefel o greadigedd, a’r posibilrwydd o ddarganfod rhywbeth, yn cyfateb yn uniongyrchol i’r nifer a’r math o newidion sydd ynddo.’

Gwylio rhannau rhydd ar waith Scrapstore Playpod® http://bit.ly/ScrapstorePlaypod Maes Chwarae Dychmygol mewn Bocs http://bit.ly/PlaygroundinaBox Chwarae Naturiol mewn Ysgolion (Learning through Landscapes) http://bit.ly/NaturalPlayinSchools Sesiynau gwaith chwarae cymunedol (RAY Ceredigion) http://bit.ly/RAYCeredigion O Awstralia, Play for Life POD in Action http://bit.ly/PlayForLifePOD

8 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Buddiannau chwarae rhannau rhydd ‘Pan fydd plant yn rhyngweithio gyda rhannau rhydd, byddant yn camu i fyd yn llawn “beth pe bae?” sy’n hybu’r math o feddwl fydd yn arwain at ddatrys problemau ac ymresymu damcaniaethol. Mae rhannau rhydd yn cyfoethogi dawn plant i feddwl yn ddychmygus ac i weld datrysiadau, ac maent yn cyflwyno ymdeimlad o antur a chyffro i chwarae plant.’ Daly a Beloglovsky, 2015

‘Mae ymchwilwyr wedi canfod bod eitemau rhad, fel cretiau a bwcedi, yn annog plant i fod yn fwy egnïol a chreadigol nag offer chwarae costus. Mae’r canfyddiadau’n ganlyniad astudiaeth tymor hir i mewn i wahaniaethau chwarae plant ysgol gynradd sydd â mynediad i wahanol feysydd chwarae. Gall cyflwyno gwrthrychau bob dydd, syml yn ystod amserau chwarae a’r awr ginio dorri ymddygiad eisteddog yn ei hanner, gwella creadigedd a chynyddu sgiliau cymdeithasol a datrys problemau.’ Science Daily, 2016

Ceir cronfa gynyddol o dystiolaeth (Hyndman, Benson, Ullah a Telford, 2014) am fuddiannau chwarae gyda rhannau rhydd, yn cynnwys: •

Lefelau cynyddol o chwarae creadigol a llawn dychymyg

Plant yn chwarae’n gydweithredol ac yn cymdeithasu mwy

Plant yn fwy corfforol egnïol

Deilliannau cwricwlwm yn digwydd trwy chwarae anffurfiol gyda rhannau rhydd (Wagland, 2015)

Rhannau rhydd yn hwyluso sgiliau cyfathrebu a chyd-drafod o’u hychwanegu i ofod awyr agored (Maxwell, Mitchell ac Evans, 2008).

Mae datblygu cyfleodd chwarae â natur a gofodau chwarae naturiol yn darparu tystiolaeth am fuddiannau chwarae gyda rhannau rhydd sydd i’w cael yn naturiol. Mae hyn yn cynnwys: •

Gwelliant mewn cydsymudiad corfforol plant ifanc (Fjørtoft a Sageie, 2000)

Plant yn teimlo eu bod yn gallu canolbwyntio’n well ac mae’n cyfoethogi doniau gwybyddol (Wells, 2000)

Mae treulio amser ym myd natur yn cynorthwyo gyda lles seicolegol mewn plant (Wells ac Evans, 2003)

Mae plant yn fwy tebygol o ymweld â mannau gwyrddion fel oedolion (Ward Thompson, Aspinall a Montarzino, 2008)

Mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddatblygu agweddau ac ymddygiadau sy’n cefnogi’r amgylchedd fel oedolion (Chawla a Cushing, 2007).

Mae Scrapstore Bryste (www.playpods.co.uk) yn disgrifio’n gryno’r buddiannau a welir trwy gyflwyno rhannau rhydd mewn meysydd chwarae ysgolion, sy’n galluogi plant i ‘fod yn wirioneddol greadigol wrth chwarae, a hynny’n syml oherwydd eu bod yn anghyfarwyddol a’u bod yn annog ystod eang o wahanol fathau o chwarae. Mae’n cyfoethogi’r amgylchedd ffisegol a dynol o fewn ysgolion, gan greu gofodau ysgogol a rhyngweithiol ble y gall plant ddysgu trwy chwarae.’

‘Adroddodd y mwyafrif o ysgolion am ostyngiad mewn ymddygiadau nad oedd eu heisiau i lefel yn is na’r hyn a gofnodwyd cyn cyrhaeddiad y Pod.’ Armitage, 2009

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 9


Themâu chwarae a chwarae rhannau rhydd Gellir cydblethu’r cysyniad o rannau rhydd a’u fforddiannau gydag astudiaethau ynghylch sut y bydd plant yn chwarae’r tu allan, yn enwedig mewn amgylcheddau naturiol. Mae’n ymddangos bod patrymau i chwarae plant sy’n dod i’r amlwg waeth beth fo’r hinsawdd, eu diwylliant, dosbarth, rhyw, lefel datblygiadol neu oedran. Maent yn gysylltiedig â’r modd y bydd bodau dynol yn tyfu a’u hangen am hunaniaeth, cysylltiad ac ymdeimlad o fod yn gysylltiedig â lle, yn ogystal â phobl. Yn ein byd bythol-newidiol, mae angen inni sicrhau bod plant yn cael cyfleodd i ddatblygu eu hymdeimlad o berthyn ac o fod gyda, yn hytrach nag ar wahân, i natur.

Ystyriodd White (2014) waith Appleton (1975), Sobel (2008) a Pelo (2013). Wrth sylwi ar elfennau tebyg rhwng eu syniadau, o wahanol ddegawdau ac o waith gyda phlant a phobl ifanc o amrywiol oedrannau, awgrymodd y gellid cyfuno’r themâu i ddarparu fframwaith cyfeirio. Gall y fframwaith yma helpu oedolion i ddeall sut y bydd plant yn chwarae, i ddatblygu ymgysylltiad plant â natur a lle ac i ddarparu amgylcheddau deniadol ar gyfer chwarae gyda rhannau rhydd.

Thema chwarae

Darpariaeth chwarae rhannau rhydd

Antur

Chwilio am yr anhysbys, ymestyn terfynau posibiliadau, mentro’n ofalus, rhagweld, darganfod a dyfeisio.

Chwilota ac archwilio draw o olwg oedolion (neu ymdeimlad o wneud hyn)

Sefydlu diwylliant ble y cefnogir mentro

Datblygu darpariaeth chwarae gaiff ei arwain gan y plentyn

Neilltuo amser ar gyfer gwrando ar a chlywed profiadau plant, os hoffen nhw rannu’r rhain

Ymgartrefu

Adnoddau ar gyfer adeiladu cuddfannau

Creu gofod, cysgodfan, diogelwch, mannau cyfrin a mannau cuddio, lloches a ffiniau tiriogaethol.

Props ar gyfer datblygu’r chwarae o fewn cuddfan neu fan cyfrin

Hen gardbord a deunyddiau ysgrifennu ar gyfer creu arwyddion

Tyllau a chorneli, coed a llwyni neu isdyfiant i guddio ynddo neu ar gyfer bod ar eich pen eich hun

Bocsys cardbord mawr a darnau o ffabrig, y gellir gweld trwyddynt neu beidio

10 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Golygfeydd

Bod yn uchel i fyny – ar ben bryn

Chwilio am dir uchel, golygfannau a gwylfâu, arolygu’r dirwedd a mapio ardaloedd.

Dringo coed, creigiau a gwrthrychau eraill

Balansio ar wahanol nodweddion

Chwarae ar wahanol lefelau

Tyllau ysbïo, bylchau a mannau y gellir gweld trwyddynt, yn cynnwys ffenestri a drysau

Llwybrau a theithio

Yr angen i chwilota ac archwilio, mapio ardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, dod o hyd i lwybrau tarw a ffyrdd cyfrin, twneli, adnabod yr ardal leol a gwneud eich marc ar y dirwedd.

Cyfleoedd i greu mapiau a’u defnyddio – yn fapiau go iawn a thrwy ddyfeisiau digidol

Creu llwybrau gydag adnoddau naturiol a phrops, fel rhaffau neu sialc

Rhyddid i chwilota a dod i adnabod ardal leol

Gweithgareddau hela a chasglu

Amser i ddyfeisio a chwarae gemau

Chwilio, darganfod a chasglu, celu a chronni, helfeydd trysor, gemau traddodiadol fel ‘cuddio’, chwilota am fwyd, sgiliau byw yn y gwyllt, tân a defnyddio offer.

Casglu a defnyddio deunyddiau naturiol

Cynwysyddion fel pocedi, bagiau, basgedi a bwcedi

Defnyddio offer go iawn i greu, gwneuthuro a chwalu gwahanol wrthrychau

Profi tân

Gweithgareddau byw yn y gwyllt: naddu, pysgota a chwilota am fwyd

Sicrhau amser a lle i ddarganfod bywyd gwyllt ar delerau’r plentyn

Creu mannau i guddio a gwylio bywyd gwyllt, creu pentyrrau cynefin, mannau bwydo adar a blychau nythu

Propiau syml ar gyfer gwisgo i fyny a bod yn anifeiliaid

Anthropomorffaeth Alldaflu’r hunan ar fodau byw eraill, teimladau tuag at, ac empathi gyda, planhigion ac anifeiliaid o bob math, datblygu cysylltiadau personol â bywyd gwyllt trwy brofiad uniongyrchol a ffantasi, a phwysigrwydd enwau.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 11


Naratifau dychmygol Gwneud synnwyr o’r byd trwy chwarae ffantasi, chwarae byd bychan a chreu straeon a hanesion am brofiadau sy’n cysylltu a dyfnhau cyfeillgarwch a pherthnasau rhwng ei gilydd a’r mannau ble y maent yn chwarae, creu atgofion ac ail-bwysleisio trefn ac ystyr.

Creu defodau Gweithredoedd bwriadol, defodol, ystyrlon yn aml gyda bwriad metaffisegol neu drawsffurfiol, gaiff eu dyfeisio gan a’u mwynhau gan unigolion neu grwpiau, anrhydeddu neu ddathlu digwyddiadau, mannau, nodweddion trwy gelf, cerddoriaeth, dawns a chwarae rôl, a rhoi a derbyn anrhegion.

Adeiladu a chwalu bydoedd bychain y tu allan neu’r tu mewn

Gwisgo i fyny, y tu mewn a’r tu allan, gyda phropiau penagored fel deunyddiau sychu’n gyflym ac ategolion syml, agored, marcio neu baentio’r wyneb a’r corff

Creu a gwneuthuro cymeriadau ffantasi

Gwrando ar y straeon y bydd plant yn eu hadrodd a’u recordio, ble fo’n briodol

Sicrhau digon o amser, heb ymyrraeth, i chwarae gael ei sbarduno ac iddo ymddangos

Rhoi sylw i, anrhydeddu a chefnogi datblygiad defodau syml, ond pwysig, plant

Darparu lle, amser, rhyddid a gofod i blant ddawnsio, creu cerddoriaeth ac archwilio celf, y tu mewn a’r tu allan

Dathlu chwarae

Ail-ymweld â mannau’n rheolaidd ac yn aml, fel mannau gwyrddion lleol

12 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


‘Rwy’n teimlo imi gael fy magu ar fodelu gyda jync; dyma oedd yr hoff weithgaredd ar gyfer bron bob clwb a fynychais yn ystod fy mlynyddoedd cynnar ac fy nyddiau yn yr ysgol gynradd. O’r Ysgol Sul i’r clwb haf, roedd gan bobman y byddwn yn mynd iddo focs enfawr yn llawn jync a byddai pob rhiant oedd yn danfon eu plentyn yno’n drymlwythog â hyd yn oed mwy o gyfraniadau. Tiwbiau cardbord, hen fobinau, darnau mawr o ddefnydd, blychau cardbord, bagiau o ddail crin ac amrywiaeth eang o ddarnau o ddeunyddiau gwastraff. Roedd creu modelau allan o jync yn grêt; roedd pawb yn ymddangos fel eu bod yn ei fwynhau. Fe fydden ni’n defnyddio tunelli o lud a milltiroedd o dâp i greu angenfilod mawr, hyll. Fe fydden ni’n creu cerbydau, rocedi a llongau gofod. Fe fydden ni’n cael anturiaethau yn y gofod, roedden ni’n blismyn ac yn lladron, neu’n fecanics yn trwsio ceir yn ofalus. Fe fydden ni’n adeiladu tai gydag ystafelloedd a dodrefn, gan greu sefyllfaoedd domestig delfrydol, yn aml er mwyn chwarae gyda nhw mewn rhyw fath o chwarae esgus, ond yr un mor aml byddem yn anghofio amdanyn nhw’r eiliad yr oeddem yn teimlo ein bod wedi eu cwblhau. Fe fydden ni’n creu cleddyfau a gynau gan ymladd yn ddewr hyd angau wrth wasanaethu gwlad a brenin, neu lodesi mewn loes. Datblygiad plant Mae jync yn rhad. Mae’r stwff sydd ei angen i’w osod at ei gilydd yn rhad, ac rydyn ni’n gwybod hyd yn oed mwy nawr nag oedd fy ngwarchodwyr yn ei wybod bryd hynny. Mae teganau, deunyddiau, propiau, offer anghyfarwyddol ac yn y blaen, yn gadael lle i’r plentyn ddefnyddio ei ddawn greadigol a’i ddyfeisgarwch. Mae cyfuno deunyddiau gwahanol, fel tiwbiau papur tŷ bach a bocs esgidiau i greu robot yn enghraifft o ddatrys problemau. Yn bwysicach fyth, mae’n ddatrys problemau dargyfeiriol, sy’n enghraifft o sgiliau meddwl ar lefel uwch. Rydym hefyd bellach yn gwybod bod chwarae’n ymwneud mwy â phroses, yn llawer mwy nac y mae am y cynnyrch. Mae hyblygrwydd jync, a’r

ffaith y gellir ei ddefnyddio at wahanol ddibenion ac mewn gwahanol ffyrdd, yn helpu i gefnogi cyfleoedd proses diddiwedd. Golyga natur anghyfarwyddol jync y gall yr hyn sydd ei angen i greu robot un diwrnod fod yn union yr un peth ac y bydd ei angen i greu llong ofod y diwrnod wedyn. Chwarae anghyfarwyddol Mae lleoliadau sy’n darparu jync a rhannau rhydd yn darparu amrywioldeb, hyblygrwydd a chyfaddaster. Pan fydd plant yn gallu ymwneud ag amgylcheddau ac adnoddau fel hyn yn eu chwarae gallant fynegi eu creadigedd, dyfeisgarwch a’u dawn wybyddol. Gall plant greu a datrys problemau ac, o ganlyniad, gynhyrchu teimladau o ysgogiad a gwobr. Bydd hyn, yn ei dro, yn eu cefnogi i ddatblygu hunanhyder, hunanamgyffrediad a hunaniaeth. Gyda’r deunyddiau hyn, byddant yn ymarfer sgiliau cymhleth o sgiliau symudiadau mân a mawr i weithgarwch gweithrediadol uwch; sgiliau fel trefnu, profi, dadansoddi a gwerthuso tybiaethau. Caiff ymgolli mewn, a pherchnogaeth o’u chwarae ei gynyddu ac felly mae plant yn fwy tebygol o geisio datrys problemau drostynt eu hunain. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu doniau meddyliol (hunanddibyniaeth) ac yn cefnogi datblygiad cyfeiriad meddwl o dwf (cred yn yr hunan fel dysgwr a meddyliwr). Ymddygiad hyblyg Mae creu modelau o jync, chwarae â rhannau rhydd neu chwarae profiadol i gyd yn gweithio ar yr egwyddor bod deunyddiau anghyfarwyddol yn cefnogi lefel uwch o ymddygiad hyblyg ac, o’r herwydd, yn cefnogi dyfeisgarwch a chreadigedd. Mae rhieni eisiau’r gorau i’w plant ond weithiau dydyn nhw heb fod yn ddigon ffodus i wybod y math yma o wybodaeth. Felly, rhoddwch wybod iddyn nhw ac maen nhw’n siŵr o fod yn hapus iawn ynghylch y math yma o chwarae y tro nesaf y daw prosiect crefft y Pasg adref gyda phen anghenfil, cleddyf ac yn gyrru cerbyd mynd i bobman!’ Addaswyd o flog gan Ben Tawil a ymddangosodd gyntaf ar: www.pacey.org.uk

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 13


Title 2. Arweiniad ymarferol – gwthio’r cwch i’r dŵr Gwthio’r cwch i’r dŵr Cynnal archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol

15 16

Rhannau rhydd 18 Casglu digonedd o rannau rhydd 20

Storio 21 Gwirio rhannau rhydd cyn ac yn ystod pob sesiwn chwarae

24

Sesiynau blasu chwarae 26

© New Model Army Photography

Ymateb i gwestiynau cyffredin 28


Gwthio’r cwch i’r dŵr Ystyriwch y defnydd o rannau rhydd fel rhan o’r agwedd gyffredinol tuag at chwarae. Penderfynwch ar yr agwedd tuag at werthuso o’r dechrau cyntaf – mae’n wych cael tystiolaeth sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng y cyfnod ‘cyn ac ar ôl’ cyflwyno’r rhannau rhydd. Cofiwch gynnwys ac addysgu’r staff, rhieni a gofalwyr am ddefnyddiau a buddiannau rhannau rhydd.

Mae clipiau ffilm ar-lein, ymweliadau astudio bychain a chyflwyniadau i gyd yn ddefnyddiol iawn

Mae’n debyg y bydd cael mynediad i hyfforddiant i ragbaratoi oedolion gyda gwybodaeth, sgiliau a hyder yn fuddsoddiad gwerth chweil. Rhowch weithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli a defnyddio rhannau rhydd.

Byddwch yn adolygu’r rhain dros amser

Sicrhewch y caiff chwarae rhannau rhydd ei hwyluso yn unol â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.

Gweler Atodiad 1

Gweithiwch ar asesiadau risg-budd o chwarae rhannau rhydd.

(Gweler Rhan 3: Hwyluso chwarae rhannau rhydd) Cofiwch fod y rhain yn debyg o gael eu haddasu wrth i’r staff a’r plant dyfu’n fwy profiadol

Rhowch dro ar rywfaint o sesiynau profi, yn ddelfrydol gyda chefnogaeth gan weithiwr chwarae neu fudiad chwarae. Datblygwch gynllun gweithredu parhaus.

Gwnewch yn siŵr bod y plant yn cael eu cynnwys ar bob cam

Penderfynwch ble a sut y caiff y rhannau rhydd eu storio. Casglwch gyflenwad cychwynnol o rannau rhydd a phenderfynwch sut y caiff y cyflenwad yma ei adnewyddu. Cynlluniwch, gwnewch, adolygwch. Cofiwch y gall pethau gymryd yn hirach na’r disgwyl! Bydd cymryd yr amser sydd ei angen i weithio trwy faterion fydd yn codi’n gwreiddio chwarae rhannau rhydd hyd yn oed yn fwy cadarn yn ffordd o weithio’r lleoliad.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 15


Cynnal archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol Gall plant ac oedolion weithio ar y cyd i ymgymryd â nifer o wahanol weithgareddau archwilio. Mewn ysgol, gallai dosbarth wirfoddoli i gyflawni’r agwedd yma o’r gwaith cyn adrodd yn ôl i weddill yr ysgol. Neu, gallai nifer o ddosbarthiadau gymryd cyfrifoldeb am un elfen o’r archwiliad er mwyn sicrhau agwedd ysgol-gyfan sydd wedi ei integreiddio â’r cwricwlwm. Peidiwch anghofio ail-ystyried pob gweithgaredd unwaith i chwarae rhannau rhydd gael ei wreiddio, er mwyn ichi allu mynd ati’n effeithlon i fesur yr effaith a dathlu ymdrechion pawb fu’n rhan o wneud i hyn ddigwydd. Byddai’n ddefnyddiol casglu a deall gwybodaeth am yr amgylchedd ac unrhyw nodweddion / fforddiannau chwarae, rheolau a threfniadau arferol, rolau a chanfyddiadau plant ac oedolion o ran chwarae a’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer chwarae.

Sut ellir casglu’r wybodaeth yma? •

Mae ffotograffau a fideos yn rymus ac yn dda at ddibenion cymharu.

Crëwch fap o’r safle, gwnewch ddigon o gopïau ac yna gofyn i bawb farcio eu copi o’u safbwynt hwy gyda mannau fel: hoff le i chwarae? Mannau sy’n peri helynt? Pwy sy’n gwneud beth ac ymhle? Yr ardal sy’n cael ei defnyddio leiaf?

Tynnwch luniau dros amser (neu ffotograffau syml yn rheolaidd) o’r un ardal dros ddiwrnod er mwyn gweld beth sy’n digwydd yno mewn gwirionedd.

Gwnewch restr o adnoddau a nodweddion chwarae sydd ar gael eisoes – mae dulliau gweledol (ffotograffau, brasluniau), rhestrau a siartiau ar y wal yn ddefnyddiol.

Crëwch siart ar gyfer monitro cymorth cyntaf, absenoldebau neu ddata arall a gesglir yn rheolaidd i weld os bydd cyflwyno rhannau rhydd yn effeithio ar yr ystadegau hyn. Mae

hon yn her trin data ddefnyddiol ar gyfer y plant. •

Gwiriwch bolisïau, gweithdrefnau a rheolau’r maes chwarae – a yw unrhyw un o’r rhain yn ddiangen, anghyson neu ar goll? Meddyliwch beth y maent yn ei ddatgelu ynghylch sut y caiff chwarae ei ganfod a’i werthfawrogi.

Byddwch yn ddewr! Holwch beth mae’r plant yn ei feddwl mewn gwirionedd am sut y mae oedolion yn cefnogi neu’n llesteirio chwarae trwy eu gweithredoedd.

‘Mae ein PlayPod yn llwyddiant mawr ac mae wedi cynyddu cyfleodd chwarae’r plant yn sylweddol iawn. Mae wedi gwella ansawdd chwarae’r plant, gyda llawer llai o gecru; a byddwn yn arsylwi chwarae anturus sy’n llawn dychymyg ar draws bob oedran.’ Pennaeth, Bro Morgannwg

Mae gweithwyr chwarae a mudiadau chwarae ar draws Cymru’n ffurfio perthnasau gwell gydag ysgolion lleol trwy gefnogi elfen ddi-gwricwlwm y diwrnod ysgol trwy ddarparu prosiectau rhannau rhydd. Mae mudiadau chwarae’n cefnogi ysgolion i gynnal archwiliadau meysydd chwarae o’r gofod chwarae sydd ar gael. Mae nifer yn darparu hyfforddiant ar gyfer goruchwylwyr awr ginio sy’n eu cefnogi i ennill gwell dealltwriaeth o ystod eang o gyfleoedd chwarae. Byddant yn darparu gwybodaeth a chyngor sy’n benodol i gefnogi chwarae yn ystod yr awr ginio ac amser chwarae. Bydd y gweithwyr chwarae’n casglu sgrap priodol sy’n lân a diogel, fel rhwydi, cardbord a thiwbiau, sy’n addas ar gyfer chwarae plant ac a gesglir oddi wrth fusnesau a gwneuthurwyr. Mae nifer o’r gweithwyr chwarae’n helpu’r ysgol i ddewis a darparu strwythur pwrpasol sy’n addas ar

16 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Title

image

gyfer storio’r sgrap ac offer chwarae arall ar y maes chwarae. Bydd y staff amser chwarae a’r goruchwylwyr awr ginio’n goruchwylio agor y strwythur yma gan gynorthwyo’r plant i gael gafael ar yr adnoddau ac i’w cadw ar ddiwedd amser chwarae. Mae mudiadau chwarae Cymreig yn adrodd bod ysgolion wedi dynodi amrywiaeth o fuddiannau i drawsnewid amser chwarae, fel: •

Plant hapusach

Llawer llai o ddamweiniau a digwyddiadau eraill

Plant yn dychwelyd i’r dosbarth yn barod i ddysgu

Staff awr ginio cryfach

Ymatebion cadarnhaol gan rieni

Mwy o blant yn chwarae’n amlach yn ystod amser chwarae nag oedd pan oedd dim ond nifer cyfyngedig o offer chwarae traddodiadol ar gael (h.y. peli a rhaffau).

Darllen pellach a thempledi Chwarae Cymru: Templed archwiliad man chwarae www.chwaraecymru.org.uk/cym/ pecyncymorthysgolion Shackell, A., Butler, N., Doyle, P. a Ball, D. (2008) Design for Play: A guide to creating successful play spaces. Llundain: Play England. www.playengland.org.uk Mae Just Playing wedi ei ddylunio er mwyn helpu i ddatblygu cyfleoedd chwarae mewn tiroedd ysgol ac ardaloedd lleol, pan fyddwch chi ar fin dechrau neu’n chwilio am fwy o ysbrydoliaeth. http://justplaying.org Gwasanaethau chwarae awdurdodau lleol ledled Cymru: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cymdeithasauchwarae

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 17


Rhannau rhydd

18 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


‘Fydden ni ddim wedi gallu cynnig profiad chwarae cyn gyfoethoced heb ddefnyddio rhannau rhydd, dyma’r allwedd i’n gwaith, mae troi i fyny mewn lleoliad awyr agored cymunedol gyda fan yn llawn rhannau rhydd wedi golygu y gall y plant ddewis beth i’w chwarae. Rydyn ni wedi defnyddio barilau ar sleidiau er mwyn gwneud pethau’n fwy hwyliog, adeiladu cuddfannau o fewn llochesi trwy ddefnyddio netin cargo a defnydd. Rydyn ni wedi adeiladu ceir gwyllt gyda’r plant, yn ogystal â gweithio gyda thân gan gynnig cacennau oren, wyau wedi’u sgramblo, bara croyw a llawer, llawer mwy.’ Jackie Dorrian, Swyddog Datblygu Chwarae, Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor

‘‘Fy marn gyntaf am y Sied Chwarae oedd nad oeddwn i’n credu y byddai’n cael fawr o effaith ar y plant yn ein hysgol. Roeddwn i’n gwbl anghywir. Ers y diwrnod cyntaf i’r sied gael ei gosod a’i hagor, mae dychymyg a chreadigedd y plant wedi fy synnu’n llwyr. Mae un plentyn o flwyddyn pedwar, oedd wastad yn chwarae ar ei ben ei hun, bellach yn rhyngweithio gyda’r plant eraill ac yn methu aros i fynd allan i chwarae. Nawr mae bocsys cardbord, hen ffrogiau priodas, landeri, sosbannau a sachau cysgu yn cael eu troi’n sioeau ffasiwn, llongau môr ladron, rasys ceir, cuddfannau a llawer mwy o syniadau creadigol eraill.’ Goruchwylydd awr ginio, Ysgol Llanfynydd, Prosiect Ysgol ‘Playful Futures’

‘Fe ddigwyddais glywed son am gwrs hyfforddi o’r enw Gwobr mewn Rheoli Cynlluniau Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS). Ers y cwrs hwnnw, fe aethon ni dros ben llestri’n llwyr am rannau rhydd! Wrth wrando ar yr hyfforddwraig a’i thîm yn siarad mor frwd am chwarae a phlant, fe wnaeth imi deimlo y byddai rhannau rhydd yn gweithio yn ein lleoliad ni. Fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i ddangos i fy nhîm sut mae’n gweithio ac i ailddyfeisio syniadau ar gyfer y feithrinfa. Wedi hynny fe aethon ni ar helfa yn y bws bach yn ystod gwyliau’r ysgol yn casglu rhannau rhydd oddi wrth yr holl fusnesau sy’n ffrindiau i ni neu ble mae ein ffrindiau’n gweithio! Fe wnaethon ni gasglu cretiau bara, bocsys cardbord, riliau cebl, teiars, tiwbiau plastig (mae’r rhestr yn un faith!) a chreu ardal rhannau rhydd yn ein gardd.’ Sam Maitland-Price, Rheolwraig Meithrinfa

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 19


Casglu digonedd o rannau rhydd Gwreiddio agweddau amgylcheddol cynaliadwy mewn chwarae •

Ailddefnyddio ac ailgylchu sgrap diangen o’r cartref, busnesau a masnachwyr.

Mae’r mwyafrif o rannau rhydd yn rhad ac am ddim, gan y gall rhieni a’r gymuned eu cyfrannu.

Bydd cyfraniadau annisgwyl ac anarferol yn ysgogi chwarae mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Mae casglu adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy’n galw ar i oedolion a phlant gefnogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae adnoddau ‘bywyd go iawn’ yn galluogi plant i greu cysylltiadau gyda diddordebau eu teulu, diwylliant lleol, treftadaeth naturiol a’r byd gwaith. Mae rhannau rhydd yn dueddol o fod yn rhydd o unrhyw ogwydd rhyw, cymdeithasol a gwybyddol.

Gall rhannau rhydd adlewyrchu’r gymuned a’r diwylliant lleol. Mewn cymunedau ar ynys neu ger yr arfordir mae’n bosibl y gwelir hen gwch, rhwydi pysgota, bocsys, bwiau, gwymon, cregyn a chewyll cimychiaid mewn gerddi teuluol a lleoliadau gofal plant. Mewn amgylchedd trefol, mae’n bosibl y caiff brics, pibelli a barilau cebl eu cyfrannu gan gwmnïau adeiladu. Mae’n bosibl y bydd canolfannau antur awyr agored yn defnyddio hen hwyliau a chanŵod er mwyn gwneud defnydd o offer sydd ddim yn addas i’r diben bellach mewn cyd-destun chwarae. Mae’n bwysig meddwl yn ofalus ynghylch ffynonellau eich adnoddau a mabwysiadu agwedd amgylcheddol gynaliadwy. Bydd gwahanol gyddestunau’n galw am wahanol arddulliau, er enghraifft, mae chwarae rhannau rhydd mewn

coetir yn wahanol i’r hyn a geir ar faes chwarae. Efallai y bydd yn well gan weithiwr chwarae maes eitemau y gellir eu cario mewn bag mawr neu fag cefn. Mae Atodiad 5 yn cynnwys rhestr o rannau rhydd profedig. Bydd llawer o’r adnoddau’n treulio wrth gael eu defnyddio felly, yn ogystal â chreu casgliad cychwynnol, mae’n bwysig meddwl am ffyrdd i adnewyddu’r cyflenwad o ddeunyddiau. Bydd angen cynllunio ar gyfer y cyflenwad o rannau rhydd a bydd angen creu system er mwyn sicrhau bod yr adnoddau’n cael eu cadw’n ffres a diddorol.

Cynghorion ar gyfer adnewyddu cyflenwadau o rannau rhydd •

Neilltuwch gwpwrdd neu ardal ble gall y plant adael deunyddiau o adref, er mwyn iddynt gael eu gwirio a’u paratoi ar gyfer chwarae.

Ychwanegwch nodyn eich bod angen ‘stwff’ ar eich cylchlythyrau, tudalennau Facebook, negeseuon trydar a gwefannau.

Ceisiwch ddysgu pa rieni sydd â gwaith neu hobïau sy’n debyg o gynhyrchu cyflenwad da o rannau rhydd – er enghraifft adeiladwyr, plymeriaid, ffermwyr, dylunwyr – a gofyn yn uniongyrchol iddynt gadw llygad am bethau y gellid eu cyfrannu.

Dewch yn ffrindiau gydag adeiladwyr lleol, ceidwaid cefn gwlad a meddygon coed.

Yn gyffredinol, gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod eich bod angen rhannau rhydd ac mae’r cyflenwad yn debygol o lifo i mewn!

Cofiwch mai eich mudiad chi fydd yn gyfrifol am reoli, cynnal a chadw, goruchwylio a gwaredu unrhyw rannau rhydd o’r eiliad y byddwch yn eu derbyn.

20 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Storio Mae rhaid i’r rhannau rhydd fod yn hawdd i’r plant fynd atynt, eu rheoli a’u cynnal a’u cadw, gyda chymorth parhaus gan oedolion.

Efallai y bydd angen gwirio cynlluniau’r safle i ddarganfod lleoliad pibelli dan y ddaear.

Mynediad ar gyfer cerbydau brys.

Ystyriaethau storio

Nad yw’r lleoliad yn darparu mynediad rhwydd i do, nad yw’n creu perygl tân ac nad yw’n llwybr i ddringo dros wal derfyn.

Bod y sied yn cael ei hagor cyn i’r plant gychwyn ar sesiwn chwarae – rhag i amser gwerthfawr gael ei golli’n chwilio am allweddi.

Y caiff y storfa ei lleoli yn yr ardal ble caiff y rhannau rhydd eu defnyddio. Mae rhai mudiadau wedi sylwi bod gosod cyfleusterau storio ar y llwybr at fynedfeydd yr adeilad yn gwneud tacluso’n haws.

Mae cistiau neu siediau wedi eu gosod allan ar yr ardal chwarae’n gweithio’n dda.

Gwnewch yn siŵr y gall y plant gael mynediad iddynt yn annibynnol a bod y drysau’n ddigon llydan i ganiatáu i hyn ddigwydd. Mae drysau dwbl ar yr ochr hiraf yn gweithio’n dda.

Meddyliwch am sut y gosodir pethau y tu mewn i’r sied neu gist o ran hygyrchedd.

Bydd storfa stabl, gyda blychau agored wedi eu gosod yn erbyn yr ochrau, yn caniatáu i’r deunyddiau gael eu sortio’n fras gan rwystro’r rhannau rhydd rhag troi’n un pentwr anhygyrch anferthol.

Neu, gallech gael nifer o siediau bach, ond ceisiwch gadw’r syniad drysau dwbl.

Gellir defnyddio hen gesys dillad neu droliau neu gerti maint plentyn ar gyfer symud deunyddiau i ac o’r siediau, yn ogystal â’u defnyddio ar gyfer chwarae.

Trefnu’r adnoddau mewn bagiau neu focsys â thema. Cofiwch y bydd hyn yn galw am fwy o amser i’w trefnu a’u cadw’n ffres a pheidiwch â bod yn orgymen – efallai na fydd syniadau oedolion am themâu yn cyd-fynd â syniadau’r plant.

Lleoli’r storfa Bydd angen trafod lleoliad y storfa gyda’r bobl hynny sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a rheoli’r gofod awyr agored yma, er mwyn sicrhau: •

Nad yw siediau a chistiau mawr eraill yn cael eu gosod dros dyllau archwilio, tyllau draenio neu hydrantau dŵr.

Ystyriaethau eraill Penderfynu pa rannau rhydd y gellir eu gadael y tu allan: Mae ardaloedd chwarae naturiol sydd â thywod, cerrig, rhisgl a llystyfiant, oherwydd eu natur, yn llawn rhannau rhydd. Mae’n bur annhebyg y caiff llawer o rannau rhydd eu symud neu eu dwyn a gellir eu gadael allan, yn dibynnu ar yr amgylchiadau’n lleol. Mae rhai mudiadau’n hapus i fabwysiadu agwedd oddefgar, dawel tuag at blant yn chwarae gyda rhannau rhydd y tu allan i oriau arferol, cyn belled na wneir unrhyw ddifrod. Efallai y bydd rhai mudiadau o’r farn mai’r siediau storio eu hunain fydd targed mwyaf tebygol unrhyw fandaliaeth ac felly ei bod yn well gadael rhywfaint o rannau rhydd allan sy’n llai tebygol o ddenu sylw annymunol. Efallai y bydd safleoedd wedi eu hamgylchynu â thai yn elwa o gael eu goruchwylio’n anffurfiol. Defnyddiwch eich gwybodaeth leol i lunio barn. Pwysigrwydd maint: gall rhannau rhydd mawr fod yn gyflymach i’w tacluso a’u cadw. Mae’n hawdd iawn i rannau rhydd bach, fel moch coed a chregyn, gael eu gwasgaru’r tu allan. Bydd eu cynnwys fel rhan o’r amgylchedd awyr agored, fel twll moch coed neu ddefnyddio cregyn fel taenfa

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 21


mewn gwelyau a photiau blodau, yn golygu llai o waith casglu. Mae eitemau bychain synthetig (fel secwins neu becynnau polystyren) yn anodd eu tacluso a gallent effeithio ar yr amgylchedd o’u gadael y tu allan, felly dylid osgoi defnyddio deunyddiau o’r fath y tu allan. Fodd bynnag, weithiau bydd angen eitemau llai o faint i hwyluso chwarae. Er enghraifft, bydd llawer o leoliadau’n darparu pegiau a ffyn ar gyfer creu cuddfannau. Eitemau gwlyb: Meddyliwch sut y caiff deunyddiau ac adnoddau eu sychu ar ddyddiau gwlyb. Gall deunyddiau sy’n sychu’n gyflym, fel tarpolinau a ffabrig synthetig, fod yn haws i’w defnyddio na deunyddiau cotwm ar gyfer adeiladu cuddfannau a gwisgo i fyny.

Meddwl y tu allan i’r bocs – agweddau creadigol tuag at storio Er bod siediau a chistiau storio’n darparu storfa ddelfrydol ar gyfer rhannau rhydd, efallai na fydd y rhain yr opsiynau mwyaf realistig neu ymarferol bob amser. Weithiau, bydd angen defnyddio rhywfaint o greadigedd wrth ystyried y ffordd orau i storio a darparu rhannau rhydd. Prosiect Clwtyn Concrid Mae grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi adfywio gofod awyr agored concrid trist nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar gampws y brifysgol a’i drawsnewid yn ofod awyr agored lliwgar ar gyfer chwarae, dysgu ac addysgu.

Galwodd y prosiect am gynllun creadigol ar gyfer storio rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant. Aeth y tîm o fyfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ati i ddylunio a chreu blychau oedd yn addas ar gyfer storio rhannau rhydd. Mae’r gofod o fudd sylweddol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Astudiaethau Plentyndod Cynnar (ECS) ac Astudiaethau Addysg Gynradd, gan ei fod yn cynnig gofod ychwanegol ar gyfer cynnal gweithdai gyda myfyrwyr, athrawon, disgyblion ysgol a’r gymuned leol. Yn ogystal â darparu man storio, mae’r blychau lliwgar wedi tyfu’n nodweddion chwarae ynddynt eu hunain – mannau i eistedd, i guddio y tu ôl iddynt ac i sefyll arnynt. Mae’r caeadau a’r ffyn pren a ddefnyddir i ‘gloi’ y blychau yn troi’n dariannau, cleddyfau, baton arweinydd a genweiriau pysgota. Mae’r gofod yma’n arddangos y gall chwarae gael ei gefnogi hyd yn oed yn y mannau mwyaf diffaith ac mae’n arddangos bod hyd yn oed y gofodau concrid ‘da i ddim’ lleiaf yn abl o greu amgylcheddau chwarae ysbrydoledig. Prosiect ‘Play Stop’ Mae’r prosiect ‘Play Stop’ yn fenter gymunedol ac ysgol a ddatblygwyd ar draws Bro Morgannwg mewn prosiect partneriaeth a arweiniwyd gan y Tîm Datblygu Chwarae. Mae’r prosiect yn cydnabod bod gan lawer o gymunedau nifer o ardaloedd ble y gall, ac y bydd plant, yn chwarae. Gallai hwn fod yn cul-de-sac, yn Fan Chwarae Amlddefnydd (MUGA), yn llecyn agored neu’n barc. Yn aml iawn, diffyg offer sy’n rhwystr i blant greu, adeiladu, profi, dychmygu ac adeiladu. Mae’r ‘Play Stop’ yn fin mawr ar olwynion yn llawn rhannau rhydd fel tiwbiau, rhwydi, rhaffau, deunyddiau a tharpolinau. Caiff y biniau eu lleoli mewn cymunedau sydd wedi dangos diddordeb

22 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Gweithiodd y tîm gyda gweithiwr tŷ cymunedol o gymdeithas tai Cartrefi Conwy i osod y blwch yn ei le ar eu tir. Dros wyliau haf yr ysgol cefnogwyd y rhieni i agor y bocs a defnyddio’r adnoddau. Arweiniodd hyn at weld unigolion yn gwirfoddoli i fod yn geidwaid allweddi’r bocs. Derbyniodd y gwirfoddolwyr, ac aelodau eraill o’r gymuned oedd â diddordeb, hyfforddiant achrededig fel rhan o’r gwaith datblygu oedd yn gysylltiedig â gosod y blwch. Yn Wrecsam, gosodwyd y bocsys mewn ysgolion cynradd a chlybiau ar ôl ysgol. Yn ogystal â darparu’r bocsys yn llawn rhannau rhydd, hwylusodd y tîm raglen o gyfres o sesiynau mentora a drosglwyddwyd dros gyfnod o 12 mis oedd yn cynnwys elfennau o hyfforddiant yn ymwneud â damcaniaethau chwarae cyfoes, cynllunio ar gyfer chwarae, rheoli risg ac arfer myfyriol mawr mewn cefnogi chwarae plant ac sy’n fodlon derbyn cyfrifoldeb am gadw’r bin a’i roi allan ar adegau cytûn o’r dydd. Gallai hwn fod yn ysgol, yn adeilad cymunedol, llyfrgell neu siop sydd yn agos i ble mae’r plant yn chwarae (i’w wneud yn hawdd i’w ddefnyddio). Prosiect Bocs Chwarae Mae Tîm Datblygu Chwarae, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) a Thîm Datblygu Chwarae, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi creu prosiect o’r enw Bocs Chwarae. Mae’r bocsys yn gistiau mawr gaiff eu gosod mewn llecyn a’u llanw ag adnoddau jync i blant chwarae gyda nhw. Caiff y bocsys eu hagor a’u clirio gan wirfoddolwyr, fel rhieni ac aelodau o’r gymuned. Yng Nghonwy, dewiswyd cymuned beilot a bu’r cynllun yn llwyddiant ysgubol a derbyniodd sylwadau cadarnhaol gan blant yn ogystal â rhieni. I gychwyn y peilot, ymwelodd y Tîm Datblygu Chwarae â’r tŷ cymunedol yn yr ardal a mynychu cyfarfodydd cymunedol er mwyn cyflwyno cysyniad y bocs.

Dolenni defnyddiol Siop Chwarae ‘Pop Up’ Conwy: www.chwaraecymru.org.uk/cym/astudiaetachospopupconwy Clwtyn Concrid http://bit.ly/ProsiectClwtynConcrid Bocsys chwarae: www.chwaraecymru.org.uk/cym/astudiaethprosiectamsergwyrddwrecsam

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 23


Gwirio rhannau rhydd cyn ac yn ystod pob sesiwn chwarae Dylech gynnal asesiad risg-budd cychwynnol cyn cyflwyno deunyddiau a bod â rhywfaint o gytundebau sylfaenol yn eu lle. Bydd plant fel arfer yn gwneud awgrymiadau ac yn cynnig datrysiadau synhwyrol.

Darnau rhydd allai ddod i ffwrdd / peryglon tagu

Pryderon cemegol e.e batris ac elfennau allai ollwng hylif

Gwirio’r safle cyn defnyddio rhannau rhydd

Pryderon trydanol e.e gwifrau, cylchedau a phlygiau

Eitemau miniog

Gwiriwch yr ardal sydd i’w defnyddio ymlaen llaw. Ewch ati ar unwaith i glirio sbwriel, darnau o wydr a baw cŵn.

Tebygrwydd o hollti neu dorri’n chwilfriw, yn enwedig dan bwysau neu newid mewn tymheredd

Dylid gosod rhaffau o amgylch, neu farcio’n gwbl glir, unrhyw beryglon na ellir delio â nhw yn y fan a’r lle.

Hylosgedd deunyddiau

Heintiad bacteriol trwy damprwydd, storio pethau’n wlyb neu ddŵr marw.

Os nad oes modd delio â’r peryglon yn y fan a’r lle, yna dylid nodi unrhyw bryderon sydd angen delio â nhw a’u pasio ymlaen i’r person sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch neu reoli risg.

Meddyliwch am y camau gweithredu fydd eu hangen i reoli’r risgiau hyn, er enghraifft: •

Sandio unrhyw gorneli siarp neu bren chwilfriw

Os oes angen, ceisiwch glustnodi ardal arall y gellid ei defnyddio.

Tynnu unrhyw wifrau rhydd, staplau neu hoelion

Peidiwch fyth â gadael peryglon heb eu delio â nhw, unai trwy adrodd amdanynt neu weithredu ar unwaith.

Edrych trwy bocedi a leinin dillad ac ategolion ail law

Gwiriwch y nifer o blant ac oedolion cefnogol fydd yn bresennol. Mae angen i hyn fod yn gyfatebol i faint yr ardal chwarae a’r lefel o adnoddau fydd ar gael. Yn fras, lluoswch y nifer o blant gyda phedwar neu bump er mwyn gweithio allan sawl eitem o rannau rhydd y gallech fod eu hangen.

Golchi a glanhau’r adnoddau.

Gwirio adnoddau Mae angen i’r rhannau rhydd fod yn ddigon diogel i blant eu defnyddio. Dylech greu system ar gyfer gwirio unrhyw eitemau newydd, waeth o ble maent wedi dod. Synnwyr cyffredin fydd eich canllaw gorau ond cofiwch ystyried peryglon posibl fel: •

Dal y bysedd neu’r pen

Mae creu rhestr wirio syml gyda’r staff, fel eu bod yn gwybod pa wiriadau i’w cynnal a pha gamau sydd i’w rhoi yn eu lle, yn fan cychwyn da. Meddyliwch os yw’n bosibl i’r plant wneud unrhyw waith cynnal a chadw. Gall hyn fod yn rymus iawn a’u helpu i ddeall bod rhaid iddynt reoli’r rhannau rhydd o’r dechrau i’r diwedd. Dylai’r asesiad risg-budd gynnwys y camau a gymrwyd i reoli’r risgiau gweledol a chudd – rhai fydd, efallai, ddim yn amlwg i’r plant. Cewch hyd i dempled o bolisi rheoli risg ac enghraifft o asesiad risg-budd ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ pecyncymorthysgolion

24 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Mae agweddau penodol o chwarae rhannau rhydd yn galw am fesurau cynnal a chadw penodol. Bydd pyllau tywod yn golygu y bydd angen brwsio a chribinio’r tywod yn rheolaidd. Bydd angen golchi eitemau a ddefnyddir ar gyfer chwarae mwd gyda phiben ddŵr o bryd i’w gilydd. Mae’n werth meddwl am yr agwedd yma o’r ddarpariaeth cyn ei gyflwyno.

Cyfnewidiwch ddillad, ategolion, rhwydi, tarpolinau a deunyddiau eraill sydd wedi treulio yn rheolaidd.

Bydd angen i’r oedolion fynd ati’n weithredol i annog y plant i roi eitemau sydd wedi treulio neu dorri mewn bocs neu leoliad penodol er mwyn eu hatgyweirio neu eu gwaredu.

Cael gwared â rhannau rhydd Pan fo eitem yn amhosibl i’w thrwsio neu’n beryglus, bydd angen cael gwared ohoni’n syth: •

Gellir compostio’r rhan fwyaf o blanhigion

Dysgwch pa ddeunyddiau all alw am ddulliau gwaredu arbenigol – cysylltwch â gwasanaeth gwaredu gwastraff eich awdurdod lleol

Adnoddau a darllen pellach Cyngor Gogledd Lanarkshire (heb ddyddiad) This Place is Like a Building Site http://bit.ly/NorthLanarkshire Rhestr wirio gofod chwarae arferol: www.chwaraecymru.org.uk/cym/pecyn cymorthysgolion

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 25


Sesiynau blasu chwarae Gall trefnu sesiynau chwarae rhagarweiniol helpu plant, rhieni a staff i ddeall yr hyn y mae cyflwyno rhannau rhydd yn ei olygu. Bydd dechrau gyda grŵp bychan o blant yn gweithio orau fel arfer. Mewn ysgol, mae’n syniad cynnwys un neu ddau ddosbarth neu grŵp cymysg o oedrannau, yn hytrach na’r ysgol gyfan.

Hwyluso’r sesiynau blasu Un o’r agweddau pwysicaf i’w deall yw sut y bydd gweithwyr chwarae’n hwyluso chwarae rhannau rhydd a sut y mae hyn yn cymharu ag arfer cyfredol. Efallai y bydd yn bosibl dod â gweithwyr chwarae neu fudiad chwarae i redeg neu i helpu i redeg y sesiynau blasu. Os na fydd, gwnewch yn siŵr bod gan y person cyfrifol gymorth a’u bod wedi cael cyfle i ymweld â lleoliadau eraill ble mae chwarae rhannau rhydd ar waith.

Cynyddu ymwybyddiaeth am y sesiynau Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth yw rhannau rhydd a beth yw pwrpas eu cyflwyno. Dylid hysbysu rhieni a gofalwyr a gofyn iddynt sicrhau bod gan eu plentyn ddillad ac esgidiau addas. Gweler Atodiad 3 am esiampl o boster ar gyfer ystafell staff ac Atodiad 2 am esiampl o lythyr at rieni. Mae rhai lleoliadau’n teimlo mai’r cyfryngau cymdeithasol yw’r ffordd orau o gyfathrebu â rhieni. Gall neges siriol, hwyliog ddenu rhieni a sicrhau eu bod yn deall sut mae’r lleoliad yn gweithio. Mae arddangosfeydd gyda gwybodaeth a lluniau’n ffordd effeithiol arall o gyfleu’r neges i rieni ac ymwelwyr.

Sicrhau bod rhieni’n gweld y plant yn chwarae Yn aml iawn, gweld plant yn chwarae gyda rhannau rhydd a’r modd y caiff y chwarae ei hwyluso fydd yn helpu i sicrhau’r ennyd allweddol honno pan fydd pobl yn dechrau deall holl fuddiannau a phleserau chwarae rhannau rhydd.

Mewn ysgolion, gwnewch yn siŵr bod pob aelod o staff yn cael cyfle i fod yn rhan o’r broses er mwyn iddynt allu gweld yr hyn sy’n digwydd a thystio drostynt eu hunain fuddiannau chwarae annibynnol gyda rhannau rhydd. Mae’n gyffredin i’r chwarae fod yn gymharol gyflym a gwyllt ar y dechrau, yn enwedig yn ystod y sesiynau cyntaf gan fod y plant yn gyffrous ynghylch yr amrywiaeth o adnoddau. Bydd bron pob plentyn yn setlo i lawr ac ymgolli yn y chwarae, o gael digon o amser. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi aros tan i bethau setlo i lawr cyn gwahodd y bobl yr ydych am eu perswadio am y buddiannau i ymweld.

Gwelwyd chwarae gwyllt ar y dechrau pan gyflwynwyd y pods chwarae ond ‘adroddodd yr holl ysgolion na wnaeth y cyfnod hwn bara’n hir a bod chwarae adeiladu wedi cychwyn “yn sydyn” ar ryw adeg.’ Armitage, 2009

Cofiwch gynnal ôl-drafodaeth wedyn gyda’r plant a’r oedolion Trafodwch yr hyn aeth yn dda a’r hyn sydd angen ei gofio pan fyddwch yn cychwyn ar chwarae rhannau rhydd. Mae hwn yn adeg da i godi pryderon ac i feddwl am ffyrdd i ddelio â nhw. Gellir dilyn hyn gyda sesiwn pellach i greu cynllun gweithredu. Mae Rhan 3 o’r pecyn cymorth hwn: Hwyluso chwarae rhannau rhydd, yn darparu cyngor defnyddiol i gefnogi staff i hwyluso sesiynau blasu.

26 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Prosiect Title Ar Agor Bob Awr Chwarae Cymru, Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Tîm Astudiaethau Addysg a Phlentyndod Cynnar) ac Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd Derbyniodd tri o wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr ar y rhaglen BA (Anrh) Addysg a Phlentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd hyfforddiant ‘Cyflwyniad i waith Chwarae’ er mwyn eu galluogi i hwyluso sesiynau chwarae mynediad agored wedi eu staffio ar ôl ysgol mewn tair ysgol. Er mwyn ymgysylltu â’r plant yn yr ysgolion cyn i’r sesiynau chwarae ddechrau, defnyddiodd y myfyrwyr ddulliau o Weithdy Hawl i Chwarae Chwarae Cymru. Mae pecyn y gweithdy ar gael i’w lawrlwytho o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ gweithdyhawlichwarae Darparodd yr ysgolion le i storio deunyddiau ac adnoddau – rhannau rhydd fel teiars, rhaffau, tarpolinau, darnau mawr o ffabrig a sialc. Er eu bod yn brin o ran nifer, bu darparu’r rhannau rhydd yn sbardun ar gyfer chwarae ym mhob un o’r tair ysgol. Yn nwy o’r ysgolion, arhosodd y rhieni ar ôl ysgol gyda’r plant iau a mynegi eu hawydd i helpu i gynnal mynediad i dir yr ysgol y tu allan i oriau dysgu.

‘Am yr ychydig ddyddiau cyntaf bu dibyniaeth lwyr ar bêl-droed, ac yna fe fydden nhw’n mynd i ffwrdd a chwilio trwy’r stwff oedd gennym a meddwl “Wel, beth mae hwn yn ei wneud?”. Yna, yn yr wythnos gyntaf, roedd y merched yn creu ffrogiau o sachau duon ac yn defnyddio’r cortyn fel cadwyni a beltiau. Yna, fe fydden nhw’n mynd yn ôl at y bêl ac yna fe fydden nhw’n mynd a meddwl “Beth mae’r gynfas fawr felen yma’n ei wneud?”. Wrth i’r amser fynd yn ei flaen, roedd mwy o’r plant yn chwarae gyda’i gilydd. Yn yr wythnos olaf, ’doedd gennyn ni ddim pêl a wnaeth neb ofyn am un. ’Doedd y bêl ddim yno, ac roedd hi’n bwrw glaw, felly dyma nhw’n dweud “O, dewch inni adeiladu cuddfan”. ‘Roedd y gymuned ble roedd yr ysgol wedi ei lleoli â fawr ddim gofod awyr agored i’r plant chwarae ac, mewn rhai achosion, roedd teuluoedd mawr yn byw mewn fflatiau bychain heb unrhyw ofod awyr agored. Roeddwn yn teimlo bod y prosiect yn bwysig gan y gallai’r plant chwarae’r tu allan a llosgi rhywfaint o egni ar ôl bod yn yr ysgol trwy’r dydd. ‘Wedi siarad gyda nifer o rieni, fe wnaethon nhw ddweud wrthyf sut yr oedd ymddygiad eu plant wedi gwella pan oedden nhw’n gallu aros a chwarae am awr ar ôl ysgol. Roedd yn gyfle hefyd i’r rhieni ymlacio a gwylio’u plant yn chwarae, gan wybod bod eu plant mewn amgylchedd diogel.’ Myfyriwr-wirfoddolwr, prosiect chwarae ar ôl ysgol

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 27


Ymateb i gwestiynau cyffredin Fel gydag unrhyw syniad neu fenter newydd, bydd cwestiynau gan staff, rhieni a phobl eraill sy’n ymwneud â’r lleoliad. Yma, rydym yn defnyddio ymatebion a gasglwyd oddi wrth blant ac ymarferwyr sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r pecyn cymorth.

A yw rhannau rhydd yn deganau? Mae’r Gyfarwyddeb Safon Brydeinig Norm Ewropeaidd (BS EN) 71 yn diffinio tegan fel ‘unrhyw gynnyrch a ddyluniwyd neu a fwriadwyd, waeth yn ecsgliwsif ai peidio, at ddiben chwarae gan blant dan 14 mlwydd oed’. Ceir rhai eithriadau i hyn, fel addurniadau Nadolig. Mae’n bosibl y bydd dryswch yn codi o ran rhannau rhydd gan nad yw’r deunyddiau wedi eu gwneuthuro fel teganau. Er enghraifft, caiff crêt bara ei ddylunio a’i wneuthuro i gael ei ddefnyddio fel crêt bara. Ni chafodd erioed ei ddylunio i gael ei ddefnyddio fel tegan, felly, nid yw Safon Diogelwch Teganau BS EN 71 yn gymwys yma. Mae llawer o adnoddau a chynnyrch a ddefnyddir mewn ysgolion a chartrefi sydd ddim yn deganau. Nid yw papur, pensiliau, llwyau pren, bocsys cardbord yn deganau, ond byddwn yn eu rhoi i’n plant i’w defnyddio bob dydd. Mae angen i blant brofi defnyddio cynnyrch ac adnoddau o’r fath. Mae angen dysgu sut i fyw mewn byd sy’n amhosibl i safonau diogelwch lywodraethu pob agwedd o’n bywydau.

A yw chwarae gyda rhannau rhydd yn achosi mwy o ddamweiniau ac anafiadau? Bwriad cyflenwi rhannau rhydd ar gyfer chwarae yw darparu cyfleoedd mwy amrywiol i blant chwarae. Mae’n bosibl y bydd plant yn cymryd risgiau wrth chwarae. Ond, rydym yn gwybod bod cymryd risg sydd wedi ei rheoli’n rhan bwysig o ddatblygiad iach plant. Bydd rhoi cyfleoedd i blant sy’n cynnwys cymryd risg yn caniatáu iddynt ddysgu i reoli risg yn annibynnol.

Mae prosiect Scrapstore Playpod® yn nodi ‘yn ystod cyfnod ymchwilio’r prosiect, ble y cyfranogodd 9 o ysgolion, cofnodwyd bod gostyngiad sylweddol, rhwng 50% a 70%, mewn cofnodion o fân-anafiadau a lled-ddamweiniau’.

A yw rhannau rhydd yn ddiogel i blant chwarae gyda nhw? Cymerir rhai camau cyffredin i sicrhau nad yw’r deunyddiau a ddarperir ar gyfer chwarae plant yn peri perygl diangen. Mae’r rhain yn cynnwys: •

Caiff yr holl adnoddau eu hasesu i sicrhau eu bod yn addas gan y staff cyn i’r plant eu defnyddio

Caiff y sesiwn ei goruchwylio

Bydd y staff yn cefnogi’r plant yn eu chwarae

Gwneir ymyriadau cadarnhaol pan fo angen

Caiff yr offer ei wirio’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas.

Caiff yr holl adnoddau a rhannau rhydd eu monitro a’u gwaredu neu eu hailgylchu os bydd yr eitemau’n anniogel neu’n beryglus ar gyfer chwarae plant.

Sut gaiff yr holl stwff yma ei gadw? Bydd modd i rai lleoliadau adael rhai rhannau rhydd mwy o faint allan. Os bydd angen eu cadw, gall lleoliadau annog y plant i ymuno yn y broses tacluso a chlirio. Er y gall rhai plant deimlo bod hyn yn anodd ac yn annymunol bydd y mwyafrif o leoliadau, ar y cyfan, yn llwyddo i ddatblygu strategaeth tacluso sy’n hawdd i’w gweithredu.

28 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Cynghorion mwd a llanast

Gosod leiniau sychu dillad dros dro

Cwpwrdd budr, ar gyfer storio pob darn o offer mwdlyd, budr

Tap y tu allan, gyda phen cawod syml wedi ei osod arno os yn bosibl, neu sinc Belfast mawr, sy’n golygu y gallwch lanhau pethau’r tu allan yn hytrach na dod â nhw i mewn

Creu ardal newid esgidiau’r tu allan: gall matiau maes chwarae rwber helpu dŵr i ddraenio a rhedeg i ffwrdd Sicrhau bod dŵr a brwshis sgwrio ar gael i’r plant sgrwbio eu dillad a’u hesgidiau mwdlyd cyn dod i mewn i’r adeilad

Gosod matiau mawr, wedi eu creu i amsugno gwlybaniaeth wrth fynedfeydd yr adeilad

Y broblem yw – stwff budr mewn ardaloedd glân, felly byddwch angen ardal bontio

Ystafell gotiau digon o faint neu lefydd i hongian neu storio dillad gwlyb

Arhoswch y tu allan!

Gellir defnyddio peiriannau sychu masnachol, sy’n hynod o effeithlon

© New Model Army Photography

‘Wedi’r mis cyntaf i’r sesiynau rhannau rhydd gael eu cyflwyno mewn ysgol yn Sir y Fflint, disgynnodd nifer y ffurflenni damweiniau a gwblhawyd o 50 i 20. Mae’n ymddangos felly bod tystiolaeth gynnar o ostyngiad mewn damweiniau. Yn y bôn, mae’n lleihau gwrthdrawiadau oherwydd bod y gofod yn cael llai o ddefnydd ar gyfer mathau chwarae ymsymudol yn unig.’ Simon Bazley, Playful Futures

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 29


Title 3. Hwyluso chwarae rhannau rhydd Rôl oedolion 31 Sefydlu trefniadau arferol ar gyfer chwarae rhannau rhydd Cyflwyno a gwreiddio chwarae rhannau rhydd

34 36

Cynnal y momentwm 37

Strwythurau chwarae lled-barhaol 39 Asesu risg-budd ar gyfer chwarae rhannau rhydd

40

Datblygu datganiad neu bolisi chwarae 43

30 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Rôl oedolion ‘Mae gweithwyr chwarae a rhodwyr chwarae’n troi gofodau ffisegol yn fannau’n llawn cyfleoedd, dychymyg a pherthyn. I lawer o blant mewn llawer o fannau, fydd buddsoddi mewn offer sefydlog fyth yn ddigon. Caiff y cyfleoedd gorau i chwarae eu siapio gan bobl – “meddalwedd” chwarae.’ Beunderman, 2010 Mae datblygu unrhyw ddarpariaeth chwarae’n golygu mwy na dim ond casglu deunyddiau. Mae gan oedolion sy’n deall eu rôl wrth hwyluso chwarae rhydd gyda rhannau rhydd, rôl allweddol. Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae (Atodiad 1) yn fframwaith proffesiynol a moesegol, sy’n darparu arweiniad defnyddiol.

Mae gan oedolion sy’n gweithio gyda phlant gyfrifoldeb hefyd i fod yn fodel rôl. Bydd plant yn arsylwi ymddygiad, geiriau a gweithredoedd yr oedolion yn eu bywydau. Fell, mae angen i oedolion fod yn ymwybodol y dylent arddangos negeseuon positif ynghylch chwarae ac ynghylch gwerthfawrogi buddiannau bod y tu allan, er enghraifft: bod yn barod i gasglu sbwriel; mynegi diddordeb mewn mwydyn y mae plentyn wedi dod o hyd iddo; gwerthfawrogi’r creadigaethau simsan y mae’r plant wedi eu hadeiladu a bod yn rhagweithiol ynghylch mynd i’r afael â phroblemau a materion amgylcheddol. Gall gweithio gyda phlant i sefydlu a chytuno ar reolau sylfaenol, fod yn ffordd effeithiol iawn o’u helpu i ddynodi a rheoli eu hymddygiad personol ac i ddeall ymddygiad eu cyfoedion.

Egwyddor Gwaith Chwarae 2: Mae chwarae yn broses a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid. Hynny yw, y plant a’r bobl ifanc fydd yn penderfynu a rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae, trwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain. Egwyddor Gwaith Chwarae 3: Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso’r broses chwarae a dylai hyn hysbysu datblygiad polisi chwarae, strategaeth, hyfforddiant ac addysg. Dylai oedolion sy’n gweithio gyda phlant gael mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer eu rôl gyda’r datblygiad yma. Mae hyn yn ymestyn ymhellach na’r rheini sy’n gweithio yn y rheng flaen. Bydd rhaid i reolwyr a phenaethiaid fuddsoddi amser a chefnogaeth gref; mae rhaid i staff sy’n rheoli’r tir ddeall bod gan blant hawl i chwarae a bod angen galluogi hyn yn hytrach na’i garcharu a’i gyfyngu gan drefniadau rheoli ac ofnau iechyd a diogelwch.

Little Lambs Nursery yn cyflwyno’r syniad rhannau rhydd i rieni trwy eu tudalen Facebook

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 31


Goruchwylio’r maes chwarae Title

Yn hytrach na phlismona chwarae, mae rôl y staff sy’n goruchwylio’r maes chwarae’n newid i:

gweithgareddau neu i fod yn ganolwr mewn anghydfodau •

Arsylwi’n fanwl er mwyn ennill dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd – nid dim ond yr hyn y mae’r plant yn ei wneud yn gorfforol ond yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eu meddyliau a’u perthnasau wrth iddynt chwarae – ac effaith hyn ar blant

Ddarparu amgylchedd sydd â llawer o bosibiliadau chwarae

Penderfynu pa ddeunyddiau a gofodau fydd ar gael ar gyfer sesiwn chwarae benodol

Creu amgylchedd ble mae’r plant yn teimlo bod ganddynt y ddawn i gymryd rheolaeth a chyfarwyddo’r chwarae

Defnyddio’r ddealltwriaeth yma i hysbysu penderfyniadau i’r dyfodol am adnoddau, deunyddiau a ffiniau.

Cynnwys plant yn y gwaith o ddatblygu cyfres o reolau ymddygiad sylfaenol, yn enwedig ynghylch diogelwch a pharchu ein gilydd

Sicrhau bod plant yn derbyn cyfrifoldeb am reoli deunyddiau, yn cynnwys tacluso a storio

Dim ond ymyrryd pan fo gwir angen o ran lles y plant.

Sefyll yn ôl a gadael i’r plant arwain eu chwarae a gwrthsefyll yr awydd i awgrymu

Learning through Landscapes (2013) The Good School Playground Guide

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer datblygu eich arfer gwaith chwarae a chefnogi chwarae plant Po fwyaf y bydd plant yn chwarae y mwyaf chwareus y maent yn debygol o fod. Trwy fod yn chwareus ein hunain gallwn hefyd annog chwarae ond, fel egwyddor gyffredinol, dylem ochel rhag ymuno gormod pan fo plant yn chwarae. Fodd bynnag, fe ddylem ymuno pan fydd: •

Plant yn gofyn inni. Weithiau, bydd plant yn gofyn yn uniongyrchol inni chwarae. Ar adegau eraill, mae’n bosibl y bydd y gwahoddiad hwn yn un cyfrin iawn a gall gynnwys amnaid, winc, gwên neu gannoedd o arwyddion bychain eraill. Golyga’r gwahoddiadau neu’r ciwiau hyn bod angen inni fod yn wyliadwrus er mwyn inni allu adnabod y ciwiau ac ymateb. Bydd pob plentyn yn cyfleu’r ciwiau hyn a gallant ddod ar unrhyw adeg.

Plant angen inni weithredu fel adnodd, fel darparu pâr ychwanegol o ddwylo.

Plentyn yn drist neu’n ofidus. Mae hyn yn galw am lawer iawn o sensitifrwydd er

mwyn barnu’n gywir ac mae’n faes ble mae adnabyddiaeth o’r plentyn neu’r plant dan sylw yn hynod o bwysig. •

Mae anghydweld difrifol y mae’r plant wedi methu ei ddatrys eu hunain. Unwaith eto, mae’r sefyllfaoedd hyn yn galw am sensitifrwydd sylweddol. Mae angen inni wrando ac arsylwi a gochel rhag neidio i gasgliad gan y gall plant, yn aml iawn, ddatrys anghydfodau eu hunain. Mae plant yn rhoi pwys mawr ar degwch yn yr oedolion sy’n rhan o’u chwarae.

Ble fo trais, niwed neu berygl. ’Does neb am weld unrhyw blentyn yn cael ei anafu neu ei niweidio’n ddifrifol a’n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod yr amgylchedd chwarae’n teimlo’n saff a diogel, hyd yn oed pan fydd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau’n llawn risg.

Pan fo perygl nad yw’r plentyn wedi sylwi arno. Tra bo llawer o blant yn abl iawn i asesu peryglon cyfarwydd ac amlwg, nid yw hyn yn wir am beryglon cudd neu anhysbys.

32 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Glyndŵr yn dynodi bod mynediad i gyfleoedd chwarae o ansawdd wedi eu cefnogi gan weithwyr chwarae yn ystod amser chwarae’n helpu i wella lefelau gweithgarwch corfforol (Taylor, Tawil a Baker 2014). Mewn prosiect ymchwil a gynhaliwyd mewn chwe ysgol yn Wrecsam, cafodd lefelau gweithgarwch corfforol plant eu hasesu mewn amserau chwarae arferol ac yn ystod sesiynau chwarae a arweiniwyd gan weithwyr chwarae.

Darparu rhannau rhydd yn cynnig agwedd fwy cynhwysol tuag at amser chwarae’r ysgol. Fe wnaeth darparu cyflenwad digonol o ddeunyddiau alluogi defnydd mwy cynhwysol a democrataidd o’r gofod, yn enwedig ar gyfer y plant hynny fydd ddim yn ymuno’n naturiol mewn gweithgareddau amser chwarae mwy traddodiadol (fel chwaraeon tîm).

Gweithiodd y gweithwyr chwarae’n unol â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae gan ddefnyddio ymyriadau gwaith chwarae. Yn y sesiynau a arweiniwyd gan weithwyr chwarae, cafodd y plant fynediad i ystod eang o rannau rhydd a’u hannog i gymryd rhan mewn chwarae a gyfarwyddir yn bersonol, fel rhan o’r ymyrraeth gwaith chwarae yma. Gwisgodd y plant beiriannau mesur curiad y galon a mesuryddion cyflymu er mwyn llunio darlun o lefelau gweithgarwch corfforol y plant. Mesurwyd y gweithgarwch corfforol gan ddefnyddio gwahanol ddwyseddau: gweithgarwch corfforol cymedrol (MPA), gweithgarwch corfforol egnïol (VPA) a chyfuniad o’r ddau, gweithgarwch corfforol cymedrol ac egnïol (MVPA). Dangosodd yr astudiaeth bod: •

Chwarae rhannau rhydd yn cynyddu MPA, VPA ac MVPA pan fesurwyd y lefelau gweithgarwch corfforol cychwynnol.

Chwarae rhannau rhydd yn cael mwy o effaith ar ferched a’i fod yn cynyddu’n sylweddol gyfanswm y gweithgarwch corfforol sy’n lles i iechyd y cymerwyd rhan ynddo.

Chwarae rhannau rhydd yn cynyddu gweithgarwch corffol yn yr unigolion a’r ysgolion hynny oedd, yn flaenorol, wedi bod y lleiaf egnïol.

Gwylio a darllen pellach PLAY | CHWARAE - ffilm fer Chwarae Cymru: bit.ly/PLAYCHWARAE Mae’n bosibl y bydd fideos Playtime Revolution a’r deunyddiau ategol a grëwyd gan Grounds for Learning ac Education Scotland yn ddefnyddiol ar gyfer trafodaethau proffesiynol fel rhan o’r hyfforddiant: www.ltl.org.uk/learning/PlaytimeRevolution Mae taflenni gwybodaeth Chwarae Cymru er enghraifft: Rôl oedolion mewn chwarae plant ac Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae – trosolwg ar gael i’w lawrlwytho o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ taflennigwybodaeth

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 33


Sefydlu trefniadau arferol ar gyfer chwarae rhannau rhydd Meddwl am y gofod awyr agored Efallai y byddai’n ddefnyddiol dynodi ardal benodedig o fewn tir y lleoliad neu’r gofod chwarae er mwyn i’r plant allu ymgolli mewn chwarae rhannau rhydd heb wrthdaro gyda neu gael eu symud gan ddiddordebau eraill fel pêldroed. Mae’n bosibl y bydd y broses tacluso’n gyflymach hefyd. Ymhen amser, gall hyn newid wrth i bawb ddod i arfer gyda’r trefniadau arferol ac wrth i ardaloedd chwarae eraill, fel pyllau tywod neu ardaloedd mwdlyd, gael eu datblygu.

Mynediad i bawb, trwy’r amser Mae chwarae rhannau rhydd yn cynnig ei hun i weld pob oed yn chwarae gyda’i gilydd, gyda’r plant yn cael mynediad i rannau rhydd pan fynnant, yn hytrach na chael eu cyfyngu gan rota neu debyg. Dylai oedolion, gymaint â phosibl, adael i’r plant chwarae a dim ond ymyrryd fel bo angen. Gall arsylwi chwarae’n dawel bach ddarparu mewnwelediad defnyddiol iawn ac mae’n grefft allweddol wrth hwyluso chwarae. Bydd plant yn darparu ciwiau aneiriol sy’n dynodi lefelau lles ac ymgysylltiad. Mae bod yn ymwybodol o hyn o bwys neilltuol wrth weithio gyda phlant sydd â sgiliau cyfathrebu geiriol cyfyngedig.

‘Rydyn ni’n dal i fod ag adnoddau a theganau. Ond mae’r staff gymaint yn fwy hyderus gyda’r offer rhannau rhydd ac mae’r plant i gyd yn eu defnyddio. Bydd y babis yn defnyddio’r paledi i ddringo drostynt, bydd y plant bach yn defnyddio’r cretiau bara i neidio oddi arnynt ac i adeiladu pont, bydd y plant meithrin yn defnyddio’r offer i forthwylio ac adeiladu a bydd y plant ar ôl ysgol yn rhoi tro ar rywbeth newydd bob nos gyda’r rhannau rhydd yn yr ardd.’ Sam Maitland-Price, Rheolwraig Meithrinfa

‘Roedd y plant yn fwy bywiog - pob un o’r plant ac nid dim ond y rheini sy’n fywiog fel arfer, ac adroddodd pawb y gwelwyd mwy o chwarae oedran cymysg / rhyw cymysg a llai o anghydweld.’ Gill Byrne, Swyddog Gweithredol, RAY Ceredigion

Chwarae allan ym mhob tywydd Dylid annog chwarae’r tu allan trwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn caniatáu i’r plant arbrofi ymhellach ac i fanteisio ar ddefnyddio’r elfennau. Meddyliwch ymlaen llaw am ddillad, esgidiau a sut i reoli offer tywydd gwlyb. Os nad oes gan eich mudiad gysgodfannau awyr agored, ystyriwch agor ystafell dan do fel bod dewis ar gael i blant sydd am aros y tu mewn. ‘Mae’r sied yn cael ei hagor hyd yn oed ar ddyddiau gwlyb, ac mae’r plant wedi derbyn rheolaeth am yr hyn sy’n dod allan a’r hyn sydd angen ei adael i mewn er mwyn ei gadw’n sych. Fe alla’ i gyfrif ar un llaw’r dadleuon y bu raid inni eu datrys ers i’r sied gyrraedd ac maen nhw’n ymwneud gan amlaf â phwy sydd i wisgo’r ffrog briodas.’ Goruchwylydd Amser Cinio, Ysgol Llanfynydd Prosiect Ysgol ‘Playful Futures’

Cytundebau ynghylch defnyddio rhannau rhydd Dylai’r plant gael eu cynnwys yn llawn yn y broses o greu cytundebau a disgwyliadau ynghylch chwarae gyda a rheoli’r rhannau rhydd. Mae’n bosibl na fydd rheolau cymhleth, caeth yn helpu cymaint ag awgrymiadau syml, dealladwy i wneud rheoli rhannau rhydd yn hawdd, er enghraifft label ‘heulwen’ wedi ei laminadu sy’n dangos ei bod hi’n well defnyddio’r eitem yma pan fo’r tywydd yn sych.

34 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Tacluso a chadw rhannau rhydd Mae clirio a chadw’r rhannau rhydd yn rhan o’r broses a bydd angen cytuno ar drefniadau ar gyfer gwneud hyn. Yn y mwyafrif o leoliadau, mae cadw’r adnoddau’n rhan o’r broses sy’n galluogi i chwarae rhannau rhydd barhau i ddigwydd. Gallai’r trefniadau clirio gychwyn pum munud cyn diwedd y sesiwn, gydag arwyddion i’r plant ddirwyn eu chwarae i ben. Yn ddibynnol ar y cyd-destun, mae manteision i adael rhannau rhydd allan yn y lleoliad fel y gall y plant ddychwelyd at bethau y maent wedi dechrau eu hadeiladu. Yn aml, bydd plant yn cael eu hysbrydoli gan greadigaethau gadawedig neu anorffenedig plant eraill gan eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer eu chwarae eu hunain. Ceir dadl hefyd bod plant yn elwa mwy o ymgolli yn y chwarae ac, o’r herwydd, bod tacluso’n llai pwysig na’r buddiannau chwarae. Meddyliwch yn ofalus am yr elfennau ymarferol a’r hyn sy’n rhesymol mewn lleoliad penodol.

The Wonder Room – chwarae rhannau rhydd cynhwysol dan do ar gyfer pob oed ‘Mae’r “Wonder Room” yn gysyniad sydd â’i wreiddiau yn nhraddodiadau’r cypyrddau trugareddau. Cychwynnodd fel ystafell yn Academi Samworth Prifysgol Nottingham (NUSA) ble y bydd myfyrwyr yn mynd i chwilota ar amserau a hysbysebir. Mae stwff ym mhobman. Mae cesys dillad a bocsys yn gorlifo â deunyddiau, mae waliau a hyd yn oed nenfydau’n llawn syniadau. Mae eitemau wedi eu llwytho ar fyrddau a silffoedd. Mae’n ofod ble y gall plant rannu pethau gwych trwy gasgliadau o ddangosbethau diddorol a luniwyd yn ofalus – yn wrthrychau naturiol ac arteffactau. Caiff y rhain eu grwpio’n ôl themâu, fydd yn newid wrth i’r eitemau dreulio neu dorri neu gael eu dihysbyddu ac wrth i eraill gael eu cyfrannu neu eu creu. Mae’n lle ar gyfer profiadau uniongyrchol a rennir, ar gyfer sgyrsiau, syrpreisys, hiwmor, a’r “bachyn” diddordeb. Prin y bydd addysgu ffurfiol uniongyrchol yn digwydd, er bod “enydau dysgadwy” yn codi’n aml. Bydd y plant, yn syml, yn chwarae gyda’r stwff a, thrwy eu rhyngweithiadau, byddant yn troi’n guraduron, yn dywyswyr ac yn selogion. Ambell i ddiwrnod bydd yr ystafell yn llawn sŵn sgrechian – pan gaiff planhigyn neilltuol o ddrewllyd neu wrthrych rhyfeddol ei ddarganfod. Ar adegau eraill, bydd pobman yn dawel gyda dim ond tip-tapian allweddell a chloch y teipiadur i’w clywed. Rhai o’r cysyniadau allweddol sy’n sail i’r ystafell yw theatr, trysor, digonedd, ystyrlonrwydd, amrywiaeth, newydd-deb, mynediad, dirgelwch, syndod, estheteg, anhrefn trefnus, gwir berchenogaeth ac adeiladu ar y cyd. Mae’n agwedd gynhwysol tuag at gynnig rhannau rhydd dan do y gall unrhyw un o unrhyw oedran gael mynediad iddynt. Mae’r sylfaenydd, Matthew McFall, wastad wedi mynnu bod tyfu a hyrwyddo’r syniad yn allweddol – mae egni’r rhyfeddod yn ymestyn y tu hwnt i’r “Wonder Room” i mewn i ystafelloedd dosbarth a gofodau ysgol cyffredin ac, yn bwysicach fyth, i mewn i gartrefi a bywydau’r disgyblion.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 35


Cyflwyno a gwreiddio chwarae rhannau rhydd Mannau cychwyn awgrymedig ar gyfer sesiynau rheolaidd •

Dechreuwch gyda sesiwn chwarae yn un rhan o’r gofod awyr agored ar gyfer grŵp bychan o oedrannau cymysg unwaith yr wythnos tan i’r oedolion a’r plant ymgyfarwyddo a than bod trefniadau ar gyfer tacluso a rheoli’r adnoddau wedi dechrau cael eu sefydlu.

Cyflwynwch y syniad yn raddol, gan ddechrau gyda’r plant hŷn a gweithio i lawr trwy’r ysgol / lleoliad ac yna cynnwys pawb. Os bydd y plant hŷn yn teimlo rhywfaint o berchnogaeth gall arwain at awydd i gefnogi’r plant iau i ddefnyddio’r eitemau a chwarae gyda nhw.

Cyflwynwch un math o adnoddau ar y tro. Bydd rhai mudiadau’n cychwyn gyda theiars, cyn ychwanegu bonion coed, ac yna pecynnau adeiladu cuddfannau. Gellir tynnu sylw at adnoddau newydd ar ddechrau’r sesiwn a thrafod materion sy’n ymwneud â’u defnyddio fel bo angen.

Cyflogwch weithiwr chwarae i weithio gyda’r staff i fodelu arfer dda ac i helpu i wreiddio’r systemau.

Wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ddim yn mynegi eu hunain yn eiriol, dylai oedolion gymryd gofal yn eu harsylwadau a’u rhyngweithiadau er mwyn cyflwyno rhannau rhydd sy’n cydweddu â’u diddordebau, gan sicrhau addasiadau priodol ble fo angen. Er enghraifft, gallai darparu cerrig crynion sy’n rhy fawr i’w llyncu sicrhau oriau di-baid o ddiddordeb i fabi sy’n mwynhau archwilio eitemau trymion neu blentyn sy’n archwilio’i amgylchedd trwy roi eitemau yn ei geg. Gall dangos ffotograffau i blant o’u hunain yn chwarae’r tu allan a chynnig amrywiaeth o ddeunyddiau rhannau rhydd i’w defnyddio, helpu rhai plant i gofio sesiynau blaenorol a darparu sbardun ar gyfer ymgolli mewn chwarae.

36 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Cynnal y momentwm Fel gyda phob gweithgaredd, bydd lefelau diddordeb yn cynyddu a gostwng o bryd i’w gilydd. Weithiau bydd prysurdeb mawr yn adeiladu cuddfannau am wythnosau o’r bron cyn i hyn gael ei ddisodli gan ddiddordeb arall, fel creu cyrsiau ras rwystrau ac yn y blaen. Bydd y mwyafrif o blant yn ddigon hapus i greu a chynhyrchu syniadau heb unrhyw awgrymiadau. Fodd bynnag, gellir ychwanegu eitemau dros dro i’r casgliad craidd o rannau rhydd i ddathlu’r tymhorau, digwyddiadau diwylliannol neu ddiddordebau penodol a fynegir gan y plant. Dyma rhai enghreifftiau: •

Datblygwch gasgliadau o themâu’n seiliedig ar liwiau a golau, gweadau, synau, dŵr, mwd, tywod ac adeiladau. Gall hyn fod yn ffordd o gynnwys y plant yn y gwaith o gasglu adnoddau ychwanegol o’r cartref a’r gymuned leol. Yn y gwanwyn, gadewch i ardaloedd glaswelltog dyfu dant y llew, blodau menyn a llygad y dydd. Mae’r rhain i gyd yn blanhigion cryfion sydd â gwerth chwarae mawr all ddioddef gael eu casglu.

Wythnos hud metal – cadwch roddion o ffoil a phapur arian. Ychwanegwch blancedi ffoil.

Dewch a byrnau gwair i mewn – mae’r rhain yn wych ar gyfer adeiladu a diffinio ardaloedd. Bydd y gwair yn mynd i bobman, felly cofiwch baratoi ar gyfer hyn, ond gellir ei gasglu a’i ddefnyddio fel taenfa neu gompost maes o law.

Cynhaliwch ‘Her yr Wythnos’ gan ddefnyddio syniadau’r plant. Gallwch ei chyhoeddi yn ystod gwasanaeth yr ysgol neu ar ddechrau’r sesiwn, er enghraifft ‘Sgwn i pwy all adeiladu robot diddorol a beth fyddai’r robot yn ei wneud…’

Anfonwch gais i bobl gyfrannu coed Nadolig go iawn ar ôl y gwyliau er mwyn ichi ddefnyddio’r canghennau neu greu ffug-goedwigoedd.

Cadwch goesynnau hir planhigion a phlanhigion marw eraill wedi ichi glirio’r ardd ar gyfer y gaeaf.

Gofynnwch i bobl gasglu dail, concyrs a moch coed ichi yn yr hydref.

Mae chwarae’n brofiad bob dydd, ond bydd ei gysylltu â dyddiau dathlu’n helpu i eiriol dros chwarae i gynulleidfa fawr. Dyma rai dyddiadau i’r calendr: •

Diwrnod Chwarae Byd-eang – ym mis Mai bob blwyddyn. Mae Llyfrgelloedd Teganau ar draws y byd yn gwahodd pawb i ddathlu chwarae.

Diwrnod Mwd Rhyngwladol – ym mis Mehefin bob blwyddyn. Gwahoddwch y rhieni i ymuno!

Diwrnod Chwarae’r DU – dydd Mercher cyntaf mis Awst. Perffaith ar gyfer hwyl yn ystod gwyliau’r haf.

Diwrnod Byd-eang y Plant – 20 Tachwedd. Dathlwch yr hawl i chwarae yn ystod yr hydref.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 37


Title Newidiadau syml y gellir eu hwyluso i gadw’r chwarae i fynd Dylech ystyried pob gofod mewn modd tri-dimensiwn a gwneud y gorau o’i fforddiannau ar gyfer pob math o chwarae. Cofiwch ystyried: Lefelau: Meddyliwch pa lefelau sydd ar gael • Mynd o dan lefel y ddaear, e.e. trwy balu twll neu neidio mewn pwll o ddŵr •

Gweithio ar lefel y ddaear

Uchder canol plentyn – ar fwrdd neu ar wal

Cyfleoedd i brofi uchder yn uniongyrchol, yn cynnwys ymestyn neu gamu i fyny i gyrraedd, er enghraifft can yn llawn dŵr wedi ei hongian yn uchel

Gwrthrychau’n hongian i lawr – o raff wedi ei gosod fel lein ddillad neu ganghennau coeden.

Arwynebau • Troi o’r llorweddol i’r fertigol •

Gweithio bob ochr i wal neu uwchben ac oddi tan arwyneb, e.e. o dan yn ogystal ag ar ben mainc

Creu llethr, e.e. llithren ddŵr ar arwyneb fflat, i un ar fryn bychan

Newid ongl y llethr, e.e. o’r serth i’r llyfn gan ddefnyddio tarpolinau neu landeri

Newid yr arwyneb, e.e. o laswellt i darmac, gosod plastig swigod ar lithren neu sicrhau bod gwahanol ddeunyddiau ar gael.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddeunyddiau y gellir eu cludo neu eu symud e.e. dail, dŵr a phridd

Lle i redeg a symud o gwmpas.

Ychwanegwch dyllau • Mae tyllau’n ddefnyddiol ar gyfer postio stwff trwyddynt, gwthio tiwbiau trwyddynt, ychwanegu landeri a chwarae gemau. Mae hyn yn cynnwys fframiau ffenestri cardbord, pibelli turio a thiwbiau plastig •

Gwnewch dyllau mewn cist y gellir ei symud o gwmpas e.e. tiwbiau plastig y gellir eu plygu

Gwnewch dyllau mewn cynwysyddion er mwyn i ddŵr neu dywod sych allu llifo trwyddynt.

Parwydydd a fflapiau • Crëwch fynedfeydd ac allanfeydd e.e. hongian darn mawr o ddefnydd •

Crëwch argaeau a mannau sy’n stopio dŵr rhag llifo, ac sy’n atal tywod a deunyddiau eraill rhag symud

Crëwch barwydydd e.e. gellir creu ystafelloedd mewn cuddfannau, gall y plant weithio ar wahanol darpolinau wedi eu gosod ar lawr.

Mae’r cyngor yma wedi ei addasu o ‘Design Elements’ Tom Bedard, sydd i’w cael ar: http://tomsensori.blogspot.co.uk

Cludo – gwrthrychau, deunyddiau a’u hunain • Cynwysyddion: dewch â gwahanol fathau ac amrywiaeth eang. Mae cynwysyddion mawr yn arbennig o ddefnyddiol i bobl fynd i mewn iddyn nhw •

Ychwanegwch olwynion: dewch â berfa, troliau neu cesys dillad gan gynnwys systemau pwli

38 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Strwythurau chwarae lled-barhaol Yn aml bydd plant ac oedolion am greu strwythurau lled-barhaol fydd yn darparu cyfleoedd i blant ddysgu sgiliau bywyd fel cynllunio, dylunio ac adeiladu. Mae defnyddio offer go iawn a threulio amser gydag oedolion dawnus yn brofiad gwerthfawr a chofiadwy i lawer o blant a phobl ifanc.

Dysgwch os oes unrhyw faterion atebolrwydd cyhoeddus, mynediad, iechyd a diogelwch neu faterion strwythurol neu beirianyddol y bydd angen delio â nhw.

Gwiriwch nad oes unrhyw gyfleustodau tanddaearol, fel pibau dŵr, allai gael eu heffeithio gan y cynlluniau.

Wrth greu strwythurau chwarae gyda phlant:

Ystyriwch os oes gan y mudiad y lefel staffio, adnoddau a sgiliau priodol i ymgymryd â’r prosiect. Os nad oes, holwch pwy allai eich cynorthwyo, am dâl neu’n wirfoddol, a sicrhau bod mesurau diogelu’n eu lle.

Unwaith i’r strwythur gael ei gwblhau bydd angen asesu risg yr adeilad neu’r offer, yn ogystal â’r modd y caiff ei reoli a’i ddefnyddio.

Dylai anghenion a diddordebau’r plant yrru’r prosiect, nid awydd yr oedolion.

Os yw’r strwythur oddi ar y safle, dylid trafod gyda’r perchennog neu’r rheolwr tir ymlaen llaw a gofyn am ganiatâd.

Darllen pellach Harrop, P. (2006) Rope swings, dens, A risk based approach for managers facilitating selfbuilt play structures and activities in woodland settings. Comisiwn Coedwigaeth Lloegr. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn darparu cyngor ac arweiniad am strwythurau chwarae: www.rospa.com/play-safety Llyfrynnau Muddy Faces ar adeiladu cuddfannau a cheginau mwd: www.muddyfaces.co.uk

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 39


Asesu risg-budd ar gyfer chwarae rhannau rhydd Mae chwarae gyda rhannau rhydd trwy gydol y flwyddyn ym mron bob tywydd yn darparu profiadau i blant na ellir eu hail-greu dan do. Law yn llaw â hyn daw’r cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau fydd yn paratoi plant ar gyfer bywyd. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae asesiad risgbudd yn agwedd tuag at reoli risg sy’n ystyried y buddiannau hyn ynghyd â’r risgiau. Mae’n gysyniad a gefnogir gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn eu datganiad lefel uchel, Chwarae a Hamdden Plant: Hyrwyddo Agwedd Gytbwys (2012). Mae’n golygu mabwysiadu agwedd gytbwys a chymesur tuag at y broses asesu risg. Mae cyd-destun unigryw pob sefydliad yn dylanwadu ar y buddiannau a’r risgiau a geir gyda’r defnydd o rannau rhydd. Mae rhaid ystyried gwahanol ddoniau corfforol, cymdeithasol a gwybyddol plant a phobl ifanc, yn ogystal ag amodau’r tywydd a’r amgylchedd. Bydd hwyluso anghenion chwarae’n galw am addasu cyson i adlewyrchu hyn trwy asesu risg-budd dynamig. Dyma ble fydd angen crebwyll proffesiynol oedolyn i benderfynu os oes angen unrhyw ymyrraeth. Er enghraifft, efallai y bydd angen cadw llygad agosach ar blant sy’n newydd i’r lleoliad ar y cychwyn na phlant sy’n adnabod yr adnoddau, ac sy’n deall y gweithdrefnau a’r trefniadau arferol. Mae rheoli risg yn cynnwys nifer o elfennau: •

Polisi chwarae sy’n egluro’r agwedd tuag at risg wrth chwarae

Asesiadau risg-budd ysgrifenedig sy’n cynnwys barnau a chamau i’w cymryd

Ble fo oedolion yn bresennol, asesu risg-budd dynamig (yn y fan a’r lle) o’r chwarae wrth iddo ddigwydd

Archwiliadau technegol o offer sefydlog.

Ceisiwch sicrhau, cyn belled â phosibl, bod y broses o asesu risg-budd yn un gyfranogol a chynnwys y plant, rhieni a staff sy’n gweithio gyda’r plant. Yn ogystal â chasglu gwahanol safbwyntiau, bydd hyn yn sicrhau gwell cefnogaeth a mwy o ddealltwriaeth ymhlith y gymuned gyfan. Meddyliwch sut mae’r plant yn cael eu cynnwys yn y broses risg-budd. Dylai fod yn agwedd bositif sy’n defnyddio synnwyr cyffredin, iaith briodol ac sydd wedi ei chyfleu ar lefel briodol. Er enghraifft, mae’r frawddeg ‘Yr hyn sydd angen inni gofio wrth chwarae ydi …’, yn ffordd ddefnyddiol o gychwyn sy’n osgoi canolbwyntio’n amlwg ar y risgiau. Pan fydd plant yn mynegi pryder, gall oedolion ofyn iddynt am eu cyngor ynghylch rheoli’r pryder yma, sy’n hybu gwerth bod plant yn abl o ddatrys problemau a chymryd cyfrifoldeb am eu hunain a gofalu am eraill. Cofiwch ddiweddaru eich asesiadau risg-budd ysgrifenedig. Anogwch bawb arall i’ch helpu i’w cadw’n ffres, yn enwedig os digwydd mânddamwain neu led-ddamwain. Mae angen iddyn nhw fod yn ddogfennau ymarferol, byw sy’n adlewyrchu gweithdrefnau ac arfer yn gywir. Meddyliwch ble fydd angen iddynt gael eu harddangos neu eu cadw er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Os yw’r ddarpariaeth chwarae’n cael ei rhedeg neu ei rheoli gan awdurdod lleol neu sefydliad mwy o faint, yna bydd rhaid ichi lynu at eu gweithdrefnau asesu risg hwy. Efallai na fydd y rhain yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y buddiannau. Yn y sefyllfa hon, nodwch y buddiannau ar daflen ar wahân neu ychwanegwch golofn arall i’r ffurflenni asesu risg safonol a ddefnyddir. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd: •

Nodi buddiannau cyffredinol chwarae’r tu allan

Nodi buddiannau penodol defnyddio rhannau rhydd

40 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Nodi’r budd penodol yng nghyd-destun y risg benodol, er enghraifft buddiannau gadael i blant chwarae’r tu allan pan mae’n wlyb neu’n rhewllyd.

‘Dylai’r rheini sy’n darparu cyfleoedd chwarae ganolbwyntio ar reoli’r gwir risgiau, wrth sicrhau neu gynyddu’r buddiannau – ac nid ar y gwaith papur.’ Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Datblygu cynllun gweithredu Gellir creu cynlluniau gweithredu unwaith i gymuned y lleoliad gael cyfle i weld neu fod yn rhan o sesiwn chwarae rhannau rhydd. Cofiwch y gall cyflwyno chwarae rhannau rhydd fod yn brosiect sylweddol mewn sefydliad mawr fel ysgol, felly gall cynllun gweithredu fod yn ddull gweithredu defnyddiol. Dylech gynnwys y plant gymaint â phosibl yn y broses cynllunio gweithredu. •

Beth yw’r deilliant bwriadedig? Dylech fod â gweledigaeth glir. Cyfeiriwch yn ôl at yr archwiliad.

Beth sydd angen ei wneud, gan bwy ac erbyn pryd? Gwnewch hyn gam-wrth-gam:

Templedi a darllen pellach Barclay, M., Bazley, S. a Bullough, D. (2016) Rheoli risg dynamig ymddygiadau chwarae cyffredin allai fod yn beryglus - papur cyfarwyddyd http://bit.ly/risgdynamig Chwarae Cymru: templed asesiad risg-budd a ddyluniwyd i gynnwys asesiad risg-budd seiliedig ar werth, fel y disgrifir yng nghanllaw Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu a gymeradwywyd gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). www.chwaraecymru.org.uk/cym/ pecyncymorthysgolion Ball, D., Gill, T. a Spiegal, B. (2008) Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu. Llundain: Play Safety Forum. www.playengland.org.uk Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a Hamdden Plant: Hyrwyddo Agwedd Gytbwys. www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwilrisg

Ble gaiff y rhannau rhydd eu storio a’u tynnu allan?

Ble gaiff y rhannau rhydd eu defnyddio’r tu allan ac a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r gofod?

Sut gaiff y rhannau rhydd eu casglu?

Datblygu system ar gyfer gwirio rhannau rhydd a gesglir

Datblygu system ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw rhannau rhydd – pa drefniadau arferol sydd angen eu rhoi yn eu lle neu eu newid?

Cynlluniwch sut y caiff y sesiynau chwarae rhannau rhydd eu cyflwyno

Crëwch asesiad risg-budd

Monitrwch a mireiniwch y sesiynau chwarae rhannau rhydd

Ail-edrychwch ar yr archwiliad gwreiddiol a gwerthuswch yr effaith

Cadw’r chwarae rhannau rhydd i fynd. Beth fydd ei angen er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yma’n cael ei gwreiddio ym mywyd y sefydliad?

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 41


Pa broblemau allai fod angen eu goresgyn a pha strategaethau gaiff eu defnyddio i ddelio â’r problemau hyn? Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i bryderon gael eu lleddfu ac er mwyn i randdeiliaid wybod bod eu sylwadau’n cael eu hystyried. A yw pawb sydd angen eu cynnwys wedi cael cyfle i ddweud eu dweud?

A oes angen i’r cynllun gweithredu gysylltu â gwelliannau ehangach o fewn y sefydliad a mentrau lleol neu genedlaethol cyfredol?

Mae Atodiad 4 yn cynnwys enghraifft o gynllun gweithredu a baratowyd gan Fforwm Chwarae Aberdeen ynghyd â thempled gwag.

42 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Datblygu datganiad neu bolisi chwarae ‘Mae chwarae, yn bennaf oll, yn broses ddysgu’r plentyn ei hun, a gyfarwyddir yn bresonol, ac felly mae’n broses sy’n ddilys ar gyfer plant o bob oed. Mae’n elfen mor hanfodol o fywyd plentyn fel y bydd gallu’r plentyn i ddatblygu’n bositif yn cael ei ffrwyno neu ei atal os rhwystrir ei fynediad rhydd i’r amrywiaeth ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.’ Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru

Efallai y byddai’n fuddiol i greu, gyda mewnbwn y plant a’r gymuned ehangach, ddatganiad neu bolisi chwarae fel rhan o’r agwedd i gyflwyno chwarae rhannau rhydd. Bydd y datganiad neu’r polisi’n helpu i greu cyd-ddealltwriaeth o chwarae yn y lleoliad, ac yn helpu staff newydd neu ddarpar-rieni i ddeall bod gan blant yr hawl, yr amser a’r lle i chwarae yn ddyddiol, gan gynnwys chwarae’r tu allan cymaint â phosibl. Mae’n werth ail-edrych ar yr archwiliad chwarae gwreiddiol a gwblhawyd er mwyn ystyried effaith y newidiadau a wnaethpwyd. Pa welliannau sydd wedi digwydd? Chwiliwch am ffyrdd i gasglu’r dystiolaeth a gofyn am safbwyntiau’r holl randdeiliaid. Os oes angen, cysylltwch hyn â’r agweddau hunanwerthuso a ddefnyddir gan y sefydliad i ystyried y camau nesaf.

‘Er gwaethaf y newidiadau amlwg i’r amgylchedd chwarae, nid cyflwyno’r rhannau rhydd oedd yr elfen fwyaf allweddol i wella’r amodau ar gyfer chwarae mewn ysgolion a chlybiau y tu allan i’r ysgol. Yn hytrach, datblygu polisi chwarae wnaeth achosi’r newid pennaf mewn agwedd ac arfer staff i ganiatáu mwy o gyfleoedd chwarae (yn cynnwys defnyddio rhannau rhydd) i ddigwydd.’ Tîm Datblygu Chwarae, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mewn prosiectau cymunedol, mae’n bwysig hefyd i greu polisi neu ddatganiad fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr newydd ddeall ethos y grŵp ac, unwaith eto, glymu i mewn gydag unrhyw bolisïau perthnasol eraill. Bydd amlinellu’n gwbl glir y nodau ac amcanion a’r effaith gyffredinol yr ydym yn gweithio tuag ati’n ddefnyddiol ar gyfer ceisiadau ariannu. Mae Atodiad 6 yn cynnwys enghraifft o ddatganiad Polisi Chwarae.

Darllen pellach Dogfennau Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru: www.chwaraecymru.org.uk/cym/polisichwaraecymru

Mae’n bosibl y bydd ysgolion, canolfannau blynyddoedd cynnar a gofal plant yn dewis cyfeirio’n benodol at pam fod chwarae awyr agored a chwarae rhannau rhydd yn rhan o’r agwedd a’r ethos cyffredinol tuag at ddysgu ac addysgu a gellid cynnwys hyn hefyd mewn polisïau perthnasol eraill (er enghraifft, iechyd a diogelwch, dysgu ac addysgu). Cofiwch gynnwys datganiadau’n llawn gwybodaeth mewn unrhyw ddeunyddiau sefydliadol fel llawlyfrau a gwefannau.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 43


Cyfeiriadau Appleton, J. (1975) The Experience of Landscape. Efrog Newydd: John Wiley and Sons. Armitage, M. (2009) Play Pods in Schools: An Independent Evaluation (2006-09). Y Deyrnas Unedig: Playpeople. Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (2016) Canllaw arolygu ar gyfer gwarchod plant, gofal dydd a chwarae mynediad agored. Caerdydd: Hawlfraint y Goron.

Hyndman, B., Benson, A., Ullah, S. a Telford, A. (2014) Evaluating the effects of the Lunchtime Enjoyment Activity and Play (LEAP) school playground intervention on children’s quality of life, enjoyment and participation in physical activity. BMC Public Health, 2014; 14 (1): 164. IPA (2011) PlayRights 50th anniversary edition. Faringdon: International Play association: Promoting the Child’s Right to Play.

Ball, D., Gill, T. a Spiegal, B. (2012) Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu. Llundain: National Children’s Bureau.

Learning through Landscapes (2015) The Good School Playground Guide. Cyrchwyd 8/5/17 ar: www.ltl.org.uk/pdf/LTL-Scottish-GoodPlayground1386257083.pdf

Beunderman, J. (2010) People Make Play: The impact of staffed play provision on children, families and communities. Llundain: National Children’s Bureau. td. xviii-xix.

Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: Play England.

Daly, L. a Beloglovsky, M. (2015) Loose Parts: Inspiring Play in Young Children. St Paul: Redleaf Press, td. x.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Hawlfraint y Goron.

Estyn (2016a) Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2015-2016. Caerdydd: Hawlfraint y Goron. Estyn (2016b) Fframwaith arolygu cyffredin. Caerdydd: Hawlfraint y Goron. Fjørtoft, I. a Sageie, J. (2000) The natural environment as a playground for children: landscape description and analysis of a natural playspace, Landscape and Urban Planning. 48:83-97. Gibson, J. J. (1979) The Ecological Approach to Visual Perception.

Llywodraeth Cymru (2012) Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012. Caerdydd: Hawlfraint y Goron. Llywodraeth Cymru (2014) Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Hawlfraint y Goron. Maxwell, L. E., Mitchell, M. R. ac Evans, G. W. (2008) Effects of play equipment and loose parts on preschool children’s outdoor play behavior: An observational study and design intervention. Children, Youth and Environments, 18 (2), 36-63. Nicholson, S. (1971) How Not To Cheat Children: The Theory of Loose Parts. Landscape Architecture, cyfrol 62, tt 30-35.

44 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Nicholson, S. (1971) The Theory of Loose Parts. An important principle for design methodology. Y Brifysgol Agored. Cyrchwyd 09/05/17 http://ojs.lboro.ac.uk/ojs/index.php/SDEC/article/ view/1204/1171

Wells, N. M. (2000) At Home with Nature: Effects of ‘Greenness’ on Children’s Cognitive Functioning. Environment and Behavior. Cyfrol 32, Rhif 6, 775-795.

Pelo, A. (2013) The Goodness of Rain: Developing an Ecological Identity in Young Children. Redmond: Exchange Press.

Wells, N. M., ac Evans, G. W. (2003) Nearby Nature: A Buffer of Life Stress Among Rural Children. Environment and Behavior. Cyfrol 35:3, 311-330.

Science Daily (2016) Health benefits from free play confirmed by research. Cyrchwyd 9/05/16 ar: www.sciencedaily.com/ releases/2014/03/140303083547.htm

White, J. (2014) Ecological Identity – Values, Principles and Practice yn Duckett, R. a Drummond, M. J. (gol) (2014) Learning to Learn in Nature. Sightlines Initiative: Newcastle-upon-Tyne.

Sobel, D. (2008) Children and Nature: Design Principles for Educators. Portland, OR: Stenhouse Publishers.

Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn (2013) General Comment No. 17 on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (art. 31). Genefa: Y Cenhedloedd Unedig.

Taylor, S., Tawil, B. a Baker, S. (2014) Evaluating the effects of loose parts play on physical activity in Wrexham school children. Wrecsam: Prifysgol Glyndŵr.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a Hamdden Plant - Hyrwyddo agwedd gytbwys. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Wagland, G. (2015) Reflection of S.T.E.M. activities using resources from the mobile junk and nature playground. Cyrchwyd 09/08/16 ar: http://bit.ly/reflectionSTEM Ward Thompson, C., Aspinall, P. a Montarzino, A. (2008) The childhood factor – Adult visits to green places and the significance of childhood experience. Environment and Behavior, 40(1), 111-143.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 45


Title 4. Atodiadau 1: Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae

47

3: Enghraifft o boster ar gyfer yr ystafell staff

49

2: Enghraifft o daflen / llythyr at rieni

4: Cynllun gweithredu ar gyfer cyflwyno enghreifftiau o chwarae rhannau rhydd

48

50

5: Rhannau rhydd profedig

54

7: Chwarae rhannau rhydd a Fframweithiau Arolygu Cymru

56

6: Enghraifft o ddatganiad chwarae

55


Atodiad 1: Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae Mae’r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hyn o beth dylid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Maent wedi eu seilio ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei gyfoethogi o dderbyn mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae. 1. Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae’r awydd i chwarae’n un greddfol. Mae chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae’n hanfodol i ddatblygiad iach a lles unigolyn a chymunedau. 2. Mae chwarae yn broses a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid. Hynny yw, y plant a’r bobl ifanc fydd yn penderfynu a rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae, trwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

4. I weithwyr chwarae, y broses chwarae fydd flaenaf a bydd gweithwyr chwarae’n gweithredu fel eiriolwyr dros chwarae pan yn ymwneud ag agendâu gaiff eu harwain gan oedolion. 5. Rôl y gweithwyr chwarae yw cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu gofod ble y gallant chwarae. 6. Caiff ymateb gweithwyr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ei seilio ar wybodaeth gyfredol, gref o’r broses chwarae, ac arfer myfyriol. 7. Mae gweithwyr chwarae’n cydnabod eu effaith eu hunain ar y gofod chwarae yn ogystal ag effaith chwarae plant a phobl ifanc ar y gweithwyr chwarae. 8. Bydd gweithwyr chwarae’n dewis arddull ymyrryd sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Dylai ymyrraeth gweithwyr chwarae bob amser daro cydbwysedd rhwng y risg â’r budd datblygiadol a lles plant.

3. Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso’r broses chwarae a dylai hyn hysbysu datblygiad polisi chwarae, strategaeth, hyfforddiant ac addysg.

Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, 2005 www.chwaraecymru.org.uk/cym/egwyddoriongwaithchwarae Mae’r Pocket Guide to Playwork, a gyhoeddwyd gan SkillsActive, yn ddogfen ddefnyddiol y gellir ei lawrlwytho am ddim http://bit.ly/pocketplayworkguide Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae – arolwg, cyhoeddwyd gan Chwarae Cymru http://bit.ly/arolwgEGCh

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 47


Atodiad 2: Enghraifft o daflen / llythyr at rieni Cyflwyno chwarae rhannau rhydd Y tymor yma rydym am gyflwyno chwarae rhannau rhydd. Bydd y staff yn annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg trwy chwarae gydag adnoddau’n cynnwys bocsys cardbord, teiars, cretiau bara, tarpolinau, planciau pren a landeri plastig. Gelwir y rhain yn ‘rannau rhydd’.

Gosodwch lun o’r rhannau rhydd y byddwch yn eu defnyddio yma

Gosodwch lun o’r rhannau rhydd y byddwch yn eu defnyddio yma

Gellir eu defnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ganiatáu i’r plant greu unrhyw beth o long môr-ladron neu gastell i gwrs ras rwystrau neu guddfan. Bydd chwarae rhannau rhydd yn digwydd yn ystod amser gwersi ac yn ystod amser egwyl; bydd yn gyfle i’r plant: •

Chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau

Ymchwilio

Darganfod

Archwilio

Creu

Defnyddio llawer o brofi a methu er mwyn dysgu drostynt eu hunain

Dysgu i lunio eu barn eu hunain am chwarae anturus ac adnabod terfynau diogel.

Cofiwch sicrhau bod eich plant wedi eu gwisgo’n addas ar gyfer y tywydd er mwyn iddynt allu ymuno yn y chwarae – mae’n bosibl y byddant angen welingtons, côt sy’n dal dŵr, menig neu eli haul, het haul ayyb, yn dibynnu ar y tywydd. •

Bydd y staff a’r plant yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r rhannau rhydd.

Gosodwch lun o’r rhannau rhydd y byddwch yn eu defnyddio yma

Bydd y staff yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn cefnogi chwarae’r plant ymhellach.

Mae materion yn cynnwys sut i ddefnyddio’r adnoddau’n ddiogel wedi eu hymchwilio.

Caiff y plant eu cynnwys yn y broses o drafod materion iechyd a diogelwch.

Caiff yr holl eitemau ar y safle eu gwirio o ran diogelwch wedi eu derbyn ac ar gyfnodau rheolaidd wedi hynny.

Rhieni a gofalwyr Hoffech chi alw i mewn a gweld beth sy’n digwydd? Cysylltwch â ni ac fe drefnwn amser addas. Oes gennych adnoddau i’w cyfrannu? Byddwn angen cyflenwad o rannau rhydd er mwyn cadw pethau’n ddiddorol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am: •

………………………………………………....

………………………………………………....

………………………………………………….

Cofiwch roi gwybod os ydych am i rywun ddod i gasglu’r eitemau yr ydych am eu cyfrannu.

48 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Atodiad 3: Enghraifft o boster ar gyfer yr ystafell staff (cynhyrchwyd gan Playful Futures)

Mae’r prosiect ‘Playful Futures’ yn dod â sied yn llawn adnoddau chwarae, o’r enw rhannau rhydd, er mwyn ceisio cefnogi amserau chwarae mwy chwareus yn yr ysgol. Bathwyd y term ‘rhannau rhydd’ yn gyntaf gan Simon Nicholson yn y 1970au wnaeth gynnig po fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu symud a’u haddasu a geir mewn amgylchedd y mwyaf creadigol a dyfeisgar fydd y plant.

hambyrddau bara, bocsys plastig, stwff gwisgo i fyny fel hetiau, sgarffiau, ffrogiau (gorau po fwyaf llachar a phatrymog, a phwyntiau bonws am ffrogiau priodas!), hen eitemau o’r tŷ fel sosbenni a phadelli, llwyau pren, dysglau cymysgu, teleffonau, allweddellau cyfrifiaduron, teclyn teledu, bwcedi, pegiau dillad, darnau o hen bren, rhaff, landeri, pibau dŵr, riliau cebl, clustogau, darnau o garped ayyb …

Unwaith y bydd y prosiect wedi cychwyn caiff y plant chwarae gyda’r stwff fel y mynnant dan oruchwyliaeth y staff awr ginio, gaiff eu hannog i fabwysiadu agwedd gwaith chwarae er mwyn cyfoethogi ac ymestyn cyfleoedd chwarae’r plant ymhellach.

Mae’r rhestr yn ddiddiwedd ac rydyn ni eisiau unrhyw beth y credwch sydd â gwerth chwarae iddo!

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr iawn dderbyn eich cymorth yn rheolaidd er mwyn helpu i gasglu pethau diddorol, newydd i hwyluso ac annog chwarae dros amser chwarae. Rydym yn siŵr fod gennych chi, eich teulu a / neu eich cymdogion bob math o jync chwareus yn yr atig, y garej, cefn y cwpwrdd dillad ayyb, ac rydyn ni ei eisiau! Stwff fel: Bocsys cardbord (gorau po fwyaf … peiriant golchi llestri neu oergell / rhewgell newydd?) (Gwyliwch ‘Adventures of a Cardboard Box’ neu ‘Caine’s Arcade’ ar YouTube am ysbrydoliaeth!) darnau o ddefnydd fel hen flancedi, cynfasau neu lenni a / neu ffyn wedi ichi docio coed ar gyfer adeiladu cuddfannau, cretiau llaeth,

Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw ichi ddefnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin gan nad ydym eisiau unrhyw beth allai achosi anafiadau, fel eitemau gydag ymylon siarp. Unwaith i’r sied gyrraedd gall person enwebedig o’r tîm amser cinio drefnu i wirio’r stwff am ei werth chwarae a’i addasrwydd cyn ei roi yn y sied. Felly, ewch ati i feddwl, i chwilio ac i gasglu a dewch inni fod yn chwareus! Diolch yn fawr, Simon @ Playful Futures a’r Play Champions ‘Mae chwarae mewn gofod sy’n doreithiog o rannau rhydd yn cefnogi ystod eang o ddatblygiad yn cynnwys hyblygrwydd, creadigedd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan-barch ac ymwybod â gofod.’ Chwarae Cymru

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 49


Atodiad 4: Cynllun gweithredu ar gyfer cyflwyno enghreifftiau o chwarae rhannau rhydd

(cynhyrchwyd gan Fforwm Chwarae Aberdeen)

Cynllun gweithredu rhoi rhannau rhydd ar waith Cam gweithredu

Erbyn pryd (dyddiad cyraeddadwy)

Trafod y ddamcaniaeth rhannau rhydd gyda’r tîm staff cyfan • Gwnewch yn siŵr bod y tîm staff i gyd yn llawn brwdfrydedd ynghylch cynnwys rhannau rhydd •

Gwnewch yn siŵr bod y staff i gyd yn darllen y pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae - darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Anogwch y staff i fynychu hyfforddiant chwarae rhannau rhydd

Cynhaliwch archwiliad o’ch arfer cyfredol

Anfon gwybodaeth ragarweiniol at rieni / gofalwyr • Beth yw rhannau rhydd? •

Pam fod chwarae rhydd mor bwysig?

Ychwanegwch wybodaeth y bydd y plant yn cymryd rhan mewn chwarae rhannau rhydd ac y byddant y tu allan fwy o’r amser

Bod yn ymwybodol o fynediad y plant i’r awyr agored – darparu dillad addas

Sicrhau storfa bwrpasol Dechrau casglu rhannau rhydd Peidiwch â’u cyflwyno i’r plant eto … (Cyn eu defnyddio, dylai pob eitem gael ei gwirio a’i asesu o ran risg-budd – gellir gwneud hyn yn gyflym ac yn syml iawn gyda’r staff a’r plant. Gellir cyfuno’r broses yma’n rhwydd â gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes – gweler isod) Y plant i ysgrifennu llythyrau at fusnesau lleol, teuluoedd a ffrindiau i ofyn am gyfraniadau i’r pecynnau rhannau rhydd. • Yn cynnwys ysgrifennu a thynnu lluniau

50 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Cwblhawyd


Cyflwyno rhannau rhydd i’r plant • Trefniadau tacluso •

Trefniadau arferol ar gyfer defnyddio’r rhannau rhydd (diogelwch)

Cyflwyno eitemau’n raddol - (dylid asesu risg-budd pob eitem gyda’r plant)

Cynnal a chadw’r rhannau rhydd • Gwiriwch fod y rhannau rhydd a gasglwyd yn barod ac yn addas ar gyfer chwarae •

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw beth sydd angen ei drwsio, ei daflu neu ei gyfnewid wedi ei ddelio ag o

Datblygu datganiad / polisi chwarae • Gallai fod yn bolisi chwarae •

Yn ddatganiad chwarae

Yn strategaeth chwarae

A / neu gynnwys ‘chwarae’ mewn polisi iechyd a diogelwch / polisïau eraill

Cynnwys erthygl rhannau rhydd ym mhob cylchlythyr • I roi gwybod i’r teuluoedd beth mae’r plant wedi bod yn ei wneud gyda’r pecyn rhannau rhydd •

Y buddiannau y mae defnyddio rhannau rhydd wedi ei gael ar y plant

Creu taflen wybodaeth am rannau rhydd Gallai gysylltu gyda’r wybodaeth ragarweiniol neu daflen newydd ar rannau rhydd •

Beth yw rhannau rhydd?

Buddiannau chwarae

Chwarae heriol neu chwarae anturus

Dillad pwrpasol ar gyfer unrhyw dywydd neu chwarae mewn mwd

Cynghorion gwych

Rhestr rhoddion – awgrymiadau o eitemau y gellid eu cyfrannu

A ellid cynnwys hon yn y pecyn ymsefydlu? Diweddaru asesiadau risg-budd rhannau rhydd yn rheolaidd • Mae’n ddogfen fyw – dylid ei diweddaru wrth i rannau rhydd newydd gyrraedd neu wrth i faterion godi gydag eitemau penodol •

I’w hadolygu bob chwe mis

Cynnal diwrnod hwyl i’r teulu er mwyn i rieni a gofalwyr brofi chwarae rhannau rhydd ar waith

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 51


Cam gweithredu

Erbyn pryd (dyddiad cyraeddadwy)

Trafod y ddamcaniaeth rhannau rhydd gyda’r tîm staff cyfan • • • Anfon gwybodaeth ragarweiniol at rieni / gofalwyr Prif bwyntiau i’w cynnwys: • • • Sicrhau storfa bwrpasol Datrysiadau storio a gynigir • • • Dechrau casglu rhannau rhydd Dulliau / ffynonellau arfaethedig: • • • Cyflwyno rhannau rhydd i’r plant Amserlen a chamau arfaethedig • • • Asesiadau risg-budd Ffurflenni a gweithdrefnau • • •

52 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Cwblhawyd


Cynnal a chadw rhannau rhydd • Gwiriwch fod y rhannau rhydd a gasglwyd yn barod ac yn addas i’r plant chwarae gyda nhw •

Mae’r gwiriadau wedi eu cwblhau ac mae unrhyw beth oedd angen ei drwsio, ei daflu neu ei amnewid wedi ei ddelio ag o

Datblygu datganiad neu bolisi chwarae Camau i’w cymryd • • • Cynnwys erthygl rhannau rhydd ym mhob cylchlythyr Pynciau • • • Creu taflen wybodaeth rhannau rhydd Pynciau i’w cynnwys • • • Diweddaru asesiadau risg-budd rhannau rhydd Gwaith papur ac asesiadau, cynlluniau adolygu • • • Cynnal sesiwn neu ddiwrnod chwarae rhannau rhydd agored er mwyn i rieni a gofalwyr brofi rhannu rhydd ar waith

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 53


Atodiad 5: Rhannau rhydd profedig Naturiol

Synthetig

• • • • •

Ceiniogau pren (darnau bychan o bren tua thair modfedd o drwch) Plociau o wahanol hyd a lled Hydoedd amrywiol o bren Ffyn helyg neu gollen o leiaf 1.5m o hyd Ffyn – o wahanol hyd Hen gasgenni wisgi: ar gyfer cymysgu a chasglu

• • • • • •

Arwynebau a nodweddion • • •

• • • • • •

Twneli helyg wedi eu plannu, cuddfannau a therfynau (ffens / gwrych) Dŵr: o dap y tu allan, pwmp casgen, baril dŵr neu ganiau dŵr gyda thapiau arnynt Tywod (ac adnoddau bychan ar gyfer chwarae tywod a chlirio – yn cynnwys rhidyllau, bwcedi, rhawiau, tryweli, brwshis cryfion gyda choes hir, brwshis bach a chribiniau) Graean Darnau o risgl coed Mwd Glaswellt hir Coed – mae’n werth chweil eu plannu ar gyfer cenedlaethau o blant i’r dyfodol Pwll tân (dros dro neu barhaol)

Elfennau dros dro

• • • •

• • • • • • •

Deunyddiau sy’n sychu’n gyflym fel defnydd, blancedi ‘fleece’ a llenni cawodydd Tarpolinau (o wahanol faint a lliw – mawr, bach, gwyrdd, glas, gwyn a thryloyw) Cretiau bara a llaeth Paledi pren – rhai cryfion Bwcedi cryfion Riliau neu ddrymiau cebl Tiwbiau, landeri a thwmffatiau (plastig neu fambŵ), pibelli dŵr a phibelli turio Rhwydi Teiars – beic, beic modur a char Hambwrdd mawr bas Trol ar olwynion i helpu gyda’r gwaith tacluso, e.e. trol ardd neu drol sachau, trol twb, trol fawr fetal neu drol fechan Berfa Hen gesys dillad Basgedi ar gyfer casglu neu gario Adnoddau i gyfoethogi chwarae byd bychan, e.e. pobl, dinosoriaid a cherbydau bychain Olwynion llywio Allweddellau cyfrifiaduron Hen ddillad ar gyfer gwisgo i fyny, e.e. siwtiau gyda siacedi, gwasgodau a bagiau llaw Seddi, meinciau symudol: blancedi â chefn dal dŵr, seddi gwersylla a matiau garddio

Manion defnyddiol (gall oedolion gadw rhai o’r rhain yn eu poced neu mewn bag)

• • • • • • •

Sialc Byrnau gwellt Bocsys cardbord - o wahanol siâp a maint Dail, plu, cregyn a moch coed Cerrig, cerrig crynion a chobls Clai modelu sy’n sychu yn yr awyr Canghennau coed

• • • • • •

Strapiau velcro Clampiau a bachau ffens Cortyn, ceblau a rhaffau lliw llachar hawdd i’w gweld Carabiners mawr Pegiau Tâp masgio a thâp pacio cryf

54 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Atodiad 6: Enghraifft o ddatganiad chwarae ‘Mae Llywodraeth Cymru yn gosod gwerth mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant yn ein cymdeithas. Rydym yn credu bod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod chwarae’n ganolog i’w mwynhad o fywyd a’i fod yn cyfrannu at eu lles.’ Llywodraeth Cymru, 2014

Mae [enw’r ysgol / lleolid / grŵp] yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn sy’n mynychu’r lleoliad hwn yn cael digon o amser a mannau da i chwarae’n rhydd fel rhan o’u diwrnod.

I blant, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd. Mae chwarae’n cyfrannu at iechyd, lles a hapusrwydd plant yn ogystal ag at eu dysg a’u gallu i ddysgu. Fydd rhai plant ond yn cael cyfle i chwarae gyda’u ffrindiau yn yr ysgol. Yn bwysicaf oll, mae chwarae’n cyfrannu at allu plant i ffynnu a goroesi.

Rydym yn credu y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol iawn at fywydau plant trwy werthfawrogi eu hysfa a’u hawydd i chwarae a thrwy ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae ar fuarth chwarae’r ysgol cyn, yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol.

Mae [enw’r ysgol / lleoliad / grŵp] yn cydnabod y bydd plant yn mynd ati’n naturiol i greu a / neu chwilio am sefyllfaoedd heriol; tra’u bod yn gwneud y gorau o’u chwarae mae’n bosibl y caiff rhai plant ddamweiniau, baeddu neu wlychu neu gael eu siomi. Rydym yn cydnabod bod angen i unrhyw risg posibl o niwed i blant gael ei gydbwyso â’r potensial am les allai godi o gymryd rhan mewn math penodol o chwarae. Fe wnawn ein gorau i osgoi gweld plant yn dioddef niwed corfforol neu emosiynol difrifol trwy reoli’r cyfleoedd chwarae y byddwn yn eu darparu’n ofalus.

Mae [enw’r ysgol / lleoliad / grŵp] yn credu y bydd agwedd oedolion tuag at, a’u dealltwriaeth o, ymddygiad chwarae plant yn cael effaith sylweddol ar ansawdd y cyfleoedd chwarae a gynigir y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol / lleoliad / grŵp. Felly, bydd [enw’r ysgol / lleoliad / grŵp] yn chwilio am gyfleoedd hyfforddi ac yn cefnogi ymchwilio ymhlith ei staff fel eu bod yn teimlo’n hyderus i hwyluso chwarae plant a ddewisir o wirfodd ac a gyfarwyddir yn bersonol.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 55


Atodiad 7: Chwarae rhannau rhydd a Fframweithiau Arolygu Cymru Mae Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn a Chanllaw arolygu ar gyfer gwarchod plant, gofal dydd a chwarae mynediad agored Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ill dau’n cynnwys a hyrwyddo deilliannau sy’n ymwneud â lles, gofal, dysg a datblygiad a’r amgylchedd. Gallai’r agwedd gynhwysol, gydweithrediadol, seiliedig ar hawliau tuag at wreiddio chwarae rhannau rhydd a eiriolir yn y pecyn cymorth hwn helpu ysgolion, a lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant i ymateb i gyngor a disgwyliadau’r arolygiaethau, yn enwedig os: •

Yw plant a phobl ifanc o bob oed a gallu’n gyfranogwyr gweithredol yn y broses o gasglu, cynnal a chwarae gyda rhannau rhydd. Fel hyn, mae cyflwyno a gwreiddio chwarae rhannau rhydd yn gyd-destun perthnasol ar gyfer dysg.

Yw’r broses yn cael ei hintegreiddio i mewn i weithgarwch parhaus y sesiwn a’r ystafell ddosbarth, gymaint â phosibl.

Yw gwaith papur a dogfennau’n cael eu cadw i’r nifer lleiaf posibl: mae enghreifftiau o wahanol ddogfennau wedi eu cynnwys yn y pecyn hwn y gellir eu haddasu’n gyflym fel bo angen.

Mae buddiannau gwreiddio chwarae rhannau rhydd wedi eu hystyried yn Rhan 1: Rhannau rhydd o’r pecyn cymorth hwn. Mae plant angen amser i chwarae. Mae’r cyfle i archwilio, arbrofi, creu a bod yn egnïol trwy chwarae’n rhydd gyda rhannau rhydd, i gyd yn cyfrannu at wella iechyd a lles plant. Mae hyn yn arbennig o fuddiol pan fo’n digwydd mewn gofod naturiol. Gall natur gael effaith adfywiol sy’n gwneud i blant deimlo’n fwy abl i ganolbwyntio wedyn.

Mae gwreiddio rhannau rhydd yn cysylltu gyda nifer o elfennau o Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn, yn enwedig: •

Lles ac agweddau tuag at ddysgu

Profiadau dysgu

Gofal, cefnogaeth ac arweiniad.

Mae gwreiddio chwarae rhannau rhydd yn cysylltu gyda’r meysydd allweddol yma o fframwaith arolygu AGGCC: •

Lles

Gofal a datblygiad

Amgylchedd.

Mae chwarae’n allweddol i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant ac, o’r herwydd, i’w teuluoedd a’u cymunedau’n gyffredinol. Mae gan blant awydd greddfol i chwarae – mae ymchwil yn awgrymu bod chwarae’n effeithio ar ddatblygiad ffisegol a chemegol yr ymennydd – mae’n ‘dylanwadu ar allu plant i gyfaddasu, goroesi, ffynnu a llunio eu hamgylcheddau cymdeithasol a ffisegol’ (Lester a Russell, 2008).

Lles Bydd plant yn datblygu hyder pan gaiff chwarae rhydd ei hwyluso’n unol â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Byddant yn archwilio eu syniadau ac yn cael cyfle i actio sefyllfaoedd fel modd o wneud synnwyr o’r byd, gan ddatblygu eu gwerthoedd a’u credau. Maent yn dysgu i hunanddisgyblu eu hymddygiad a sut i gyd-ddeall eraill. Bydd hyn, yn ei dro, yn datblygu eu hunanymwybod. Mae chwarae rhydd y tu allan gyda rhannau rhydd yn elfen allweddol o ffordd o fyw iach ac egnïol. Mae’n helpu plant i asesu gwahanol fathau o

56 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


risg ac i lunio penderfyniadau deallus. Gall plant sicrhau llwyddiant wrth chwarae allai fod yn llai amlwg mewn cyd-destun dysgu ffurfiol. Bydd agwedd gyfranogol tuag at gyflwyno rhannau rhydd yn galluogi plant a phobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol ac i ddatblygu eu hymdeimlad o berthyn i gymuned yr ysgol.

Agweddau tuag at ddysgu a phrofiadau dysgu Mae chwarae’n galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu profiad, gwybodaeth a sgiliau llunio barn. Mae’r agwedd tuag at gyflwyno, gwreiddio a chwarae gyda rhannau rhydd yn apelio at blant a phobl ifanc. Maent yn cael eu sbarduno a’u hysgogi i chwarae a dysgu’r tu allan. Gwneir cysylltiadau rhwng y cartref, yr ystafell ddosbarth a’r maes chwarae a chaiff sgiliau a syniadau eu trosglwyddo rhyngddynt. Mae fforddiannau uchel rhannau rhydd yn creu posibiliadau sy’n annog plant i fod yn agored i ystyried meddyliau a syniadau newydd. Maent yn cyfathrebu gyda’i gilydd ac yn defnyddio eu sgiliau llythrennedd a mathemateg fel rhan o’u chwarae. Bydd y plant yn chwarae mewn grwpiau ac yn annibynnol hefyd. Mae eu creadigaethau’n galw am feddwl beirniadol, gwerthuso ac arbrofi parhaus er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae dysgu’n digwydd trwy chwarae.

Hwyluso chwarae creadigol a dychmygol plant a, thrwy hynny, ddatblygu eu dawn i feddwl.

Gweithio gydag eraill trwy broses o newid.

Gofal, datblygiad, cefnogaeth ac arweiniad Mae chwarae rhannau rhydd yn darparu cyd-destun ble bydd plant a phobl ifanc yn dysgu trwy eu rhyngweithiadau gydag eraill: •

Darpariaeth adnoddau penagored fydd yn galw’n aml am gydweithrediad rhwng plant yn ystod eu chwarae.

Darparu cyd-destun ble caiff y plant gyfleoedd i ryngweithio gyda phlant eraill a datblygu’r sgiliau cymdeithasol a gwybyddol sydd eu hangen ar gyfer deall a gallu estyn llaw i eraill. Mae pawb angen ffrindiau trugarog.

Gorfod ystyried anghenion a safbwynt y lleoliad cyfan. Mae hyn yn ymwneud â datblygu cyfrifoldeb personol a chymdeithasol. Er enghraifft, sicrhau bod pawb yn helpu i glirio ar ôl sesiwn chwarae.

Deall bod gan bob plentyn hawl cyfartal i chwarae.

Derbyn bod gan y modd y byddwn yn ymwneud ag eraill ganlyniadau cadarnhaol yn ogystal â rhai negyddol. Gellir profi hyn trwy gael oedolion i hwyluso sesiynau chwarae rhannau rhydd mewn ffyrdd sy’n rhoi cyfle i bob plentyn archwilio mentro’n gymdeithasol ac yn emosiynol a llunio penderfyniadau.

Mae gwreiddio chwarae rhannau rhydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu sgiliau bywyd, fel: •

Gwneud dewisiadau synhwyrol ynghylch adnoddau ar gyfer chwarae a sut i ganfod a gofalu am y rhain. Strategaethau datrys problemau trwy orfod datrys materion go iawn fydd yn codi’n sgil cyflwyno rhannau rhydd ac hefyd trwy chwarae gyda nhw.

Mae hwyluso chwarae rhannau rhydd yn galluogi: •

Plant a phobl ifanc i brofi sefyllfaoedd sy’n gofyn iddynt ystyried sut y maent yn trin eraill.

Archwilio prosesau llunio penderfyniadau democrataidd trwy’r broses o wreiddio chwarae rhannau rhydd yn ogystal â’r chwarae ei hun.

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 57


Diolchiadau Ben Tawil, Ludicology Fforwm Chwarae Aberdeen Little Lambs Nursery Playful Futures Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor RAY Ceredigion Tîm Datblygu Chwarae, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy Tîm Datblygu Chwarae, Cyngor Bro Morgannwg Tîm Datblygu Chwarae, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Troi Rownd, Uned Cyfeirio Disgyblion Ysgol Gynradd Palmerston Diolchiadau lluniau: Tîm Datblygu Chwarae Bro Morgannwg (tudalen 23), Tîm Datblygu Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (tudalen 23) a Thîm Datblygu Chwarae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Cymru (tudalen 35).

58 | Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant


Title

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant | 59


Gorffennaf 2017 © Chwarae Cymru Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, ar wahân i’r atodiadau, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’idrosglwyddo mewn unrhyw ddull gan unrhyw berson heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwr. ISBN: 978-0-9932410-5-5 Cyhoeddwyd gan Chwarae Cymru, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.