Ewch i’r prif gynnwys

Sut i wneud cais

Dysgwch bopeth y mae angen i chi ei wybod am wneud cais i ddilyn rhaglen i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dylai pawb sydd am ddilyn rhaglen amser llawn i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd wneud cais drwy UCAS.

Mae’r broses ymgeisio’n wahanol ar gyfer y rhai sy’n ystyried astudio’n rhan-amser neu ddilyn un o’n rhaglenni ymbaratoi ar gyfer y brifysgol i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol.

Y broses ymgeisio

Dilynwch y camau isod i gael gwybod sut a phryd i wneud cais i ddilyn rhaglen amser llawn i israddedigion a beth y gallwch chi ei ddisgwyl ar ôl i chi wneud hynny:

  1. Dewiswch beth yr hoffech chi ei astudio. Heb benderfynu o hyd? Chwiliwch drwy ein rhaglenni.
  2. Cadarnhewch beth yw dyddiad cau UCAS ar gyfer gwneud cais i ddilyn eich dewis raglen.
  3. Cadarnhewch beth yw’r gofynion mynediad ar y tudalen sy’n rhoi gwybod am y raglen.
  4. Gwnewch gais drwy UCAS.
  5. Arhoswch i ni wneud penderfyniad: Dysgwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.
  6. Rhowch ateb i’r Brifysgol mewn perthynas â’i chynnig.
  7. Cadarnhewch beth mae eich canlyniadau yn eich arholiadau’n ei olygu.
  8. Cadarnhewch eich lle yn y Brifysgol.

Ymgeiswyr rhyngwladol

Os ydych chi’n ddarpar fyfyriwr rhyngwladol, efallai y bydd angen i chi hefyd ystyried:

Sut i wneud cais drwy UCAS

Cyn i chi wneud eich cais ar-lein, bydd angen i chi gofrestru ag UCAS.

Nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gais i gyd ar yr un pryd. Gallwch chi ei chadw a mynd yn ôl ati’n ddiweddarach.

Mae UCAS yn rhoi llawer o gyngor defnyddiol, gan gynnwys cyngor ar sut i lenwi’r ffurflen gais, llunio datganiad personol a chasglu geirdaon.

Côd UCAS ar gyfer Prifysgol Caerdydd yw C15. Mae’r côd ar gyfer eich dewis raglen i’w weld ar frig tudalen y rhaglen.

Gallwch chi ddewis hyd at bum rhaglen i gael eich ystyried ar eu cyfer, cyn belled â bod eich cais yn dod i law erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i ddilyn y rhaglen dan sylw. Nid oes angen i chi restru’r rhaglenni yn ôl yr hyn sydd orau gennych chi nes eich bod wedi cael eich cynigion.

Dechrau eich cais UCAS

Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais UCAS

Gallwch chi gyflwyno eich ffurflen gais o ddechrau mis Medi ymlaen yn y flwyddyn cyn i chi ddechrau astudio. Dylech chi wneud cais cyn gynted â phosibl, gan y gallai lleoedd ar raglenni lenwi’n gyflym.

  • Tua 31 Ionawr yw’r dyddiad cau arferol ar gyfer ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr y DU.
  • Tua 30 Mehefin yw’r dyddiad cau arferol ar gyfer ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol.
  • Mae’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i ddilyn rhaglenni clinigol yn gynharach. Ar gyfer Meddygaeth (codau UCAS: A101 ac A104) a Deintyddiaeth (côd UCAS: A200), tua 15 Hydref yn y flwyddyn cyn i chi ddechrau astudio yw’r dyddiad cau.

Ceisiadau hwyr: cewch wneud cais hyd at ddiwedd mis Mehefin, ond bydd eich cais yn cael ei farcio’n un 'hwyr'. Bydd y tiwtoriaid derbyn myfyrwyr yn rhydd i benderfynu a ddylai’r cais gael ei ystyried neu beidio.

Cadwch lygad ar ein tudalen sy’n nodi’r dyddiadau allweddol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi’n colli unrhyw beth.

Rhaglenni rhagarweiniol

Wedi i chi orffen dilyn un o’n rhaglenni rhagarweiniol yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i un o’n rhaglenni i israddedigion. Dylech chi wneud cais i ddilyn rhaglen ragarweiniol drwy UCAS.

Ceisiadau i ohirio dechrau astudio

Bydd y rhan fwyaf o Ysgolion academaidd yn ystyried ceisiadau i ohirio dechrau astudio. Mae’n rhaid i chi ddewis y flwyddyn ddechrau gywir ar eich ffurflen gais.

Gwneud cais ar ôl cymryd seibiant o addysg

Os byddwch chi’n 21 oed neu'n hŷn pan fyddwch chi’n dechrau astudio, byddwch chi’n cael eich ystyried yn fyfyriwr aeddfed. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr aeddfed o bob cefndir i ddilyn rhaglenni amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd.

Rydyn ni’n derbyn amrywiaeth o gymwysterau a phrofiad proffesiynol perthnasol. Dyma ganllawiau pellach ar astudio’n fyfyriwr aeddfed.

Ymgeiswyr ag anableddau neu anghenion penodol

Os oes gennych chi anabledd neu anhawster dysgu penodol (fel dyslecsia), cofiwch nodi hyn ar eich ffurflen gais er mwyn i ni gael gwybod am eich anghenion cyn i chi gyrraedd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cyngor i ymgeiswyr anabl.

Ceisiadau nad ydyn nhw’n rhai UCAS

Rhaglenni ymbaratoi ar gyfer y brifysgol

Mae nifer o raglenni ymbaratoi ar gael i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau priodol i ddechrau’r flwyddyn gyntaf o raglen i israddedigion.

Dyma ragor o wybodaeth am ein rhaglenni Blwyddyn Sylfaen i Fyfyrwyr Rhyngwladol yng Nghanolfan Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd. Wedi i chi orffen dilyn un o’r rhaglenni’n llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i un o’n rhaglenni i israddedigion.

Darganfyddwch sut i wneud cais i ddilyn un o’r rhaglenni hyn. Fel arall, gwnewch gais yn uniongyrchol drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein.

Rhaglenni rhan-amser a rhaglenni nad ydyn nhw’n arwain at radd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn rhaglen ran-amser neu raglen amser llawn i israddedigion nad yw’n arwain at radd, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol.

Help i baratoi eich cais

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth arnoch chi wrth baratoi eich cais, gofynnwch gwestiwn i ni drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.

Tîm derbyn

Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn ein helpu i ateb eich cwestiwn.

Gall darpar fyfyrwyr rhyngwladol hefyd gael cymorth wrth baratoi eu cais gan ein cynrychiolwyr a’n hasiantau yn eu gwledydd.

Y camau nesaf

Darganfyddwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.

Os hoffech chi gael gwybodaeth fwy manwl am y broses derbyn myfyrwyr, edrychwch ar ein polisïau derbyn myfyrwyr.